Dementia: beth mae'r Cyngor yn ei wneud

Cynllun Gweithredu Cyngor sy’n Deall Dementia 2022/23 Cyngor Sir Ddinbych

Rydym wedi gwneud ymrwymiadau fel rhan o Gynllun Gweithredu Cyngor sy'n Deall Dementia i'r canlynol rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Mae llawer o'r camau gweithredu eisoes ar y gweill.

Nod 1: celfyddydau, diwylliant, hamdden ac adloniant

Mae camau gweithredu ar gyfer y nod hwn yn cynnwys:

  • annog staff ym mhob tîm, yn cynnwys Hamdden Sir Ddinbych a chynghorwyr, i fynychu sesiynau Cyfeillion Dementia. Annog staff allweddol i fod yn Llysgenhadon dros Gefnogwyr Dementia / Cyfeillion Dementia.
  • darparu dolenni i becyn E-ddysgu ar gyfer codi ymwybyddiaeth o ddementia ar gyfer personél nad ydynt yn gweithio ar y rheng flaen.
  • parhau i nodi bylchau mewn gwybodaeth a gwasanaethau sy’n ymwneud â dementia a gweithio tuag at ddarpariaeth well.
  • gwahodd pobl sy'n byw gyda dementia i archwilio ein safle / arwyddion.
  • gweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych i edrych ar ehangu ein sesiynau Celf Cymunedol i ysgolion a chynnwys y Gwasanaethau Cefn Gwlad lle bo hynny’n briodol.
  • sicrhau ein bod yn ymrwymo i gefnogi gwaith sy'n pontio'r cenedlaethau gan amlygu ymwybyddiaeth o ddementia. Byddwn yn gweithio o bell neu gyda chysylltiadau yn y canol os bydd angen.
  • dylanwadu ar bolisi'r Cyngor Sir mewn perthynas â chefnogi cydweithwyr sy'n byw gyda Dementia neu’n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia.
  • gweithio gyda phartneriaid i alinio gweithgareddau rhanbarthol a lleol ar gyfer Cymunedau sy’n Deall Dementia.
  • gweithio gyda phartneriaid a’r trydydd sector i ddarparu cefnogaeth well i ofalwyr.
  • ailymgysylltu â staff ar draws y cyngor sy’n cefnogi teulu neu ffrindiau, i ganfod pa gymorth neu gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw a’r dulliau darparu maen nhw’n eu ffafrio.
  • llunio cyswllt gyda gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n ymwneud â dementia.
  • parhau i ddefnyddio adnoddau dros y we a thechnoleg er mwyn datblygu gwell darpariaeth gofal.
  • byddwn yn rhannu adnoddau ac adroddiadau newydd pan fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi er mwyn codi ymwybyddiaeth o fewn y celfyddydau, maes hamdden a lleoliadau diwylliannol ynghylch yr heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw gyda dementia.

Nod 2: Cymuned / Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Fel uchod, gweler y mecanweithiau sydd ar waith, neu wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos. Yn ogystal, rydym yn cefnogi'r gymuned ac iechyd a gofal cymdeithasol drwy gynnig y cymorth canlynol:

  • gwybodaeth a chanllawiau ar ein gwefan
  • Timau Adnoddau Cymunedol
  • ailgychwyn Pwyntiau Siarad yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych a lleoliadau cymunedol eraill
  • parhau i ddarparu hyfforddiant (gyda chydweithwyr yn y byd Iechyd fel y bo’n briodol) e.e. Dementia a cholli clyw
  • gweithio gyda fforwm Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych ac Age Connects er mwyn helpu i greu cymuned sy'n Gyfeillgar i Oed
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol (CESI)
  • gwiriadau diogelwch tân mewn cartrefi
  • llyfrau ar bresgripsiwn / bagiau cof
  • help gyda biniau olwynion
  • gostwng treth y cyngor ar gyfer pobl sy’n byw gyda Dementia
  • gweithio gyda Chymunedau sy’n Deall Dementia ar draws Sir Ddinbych
  • gwahodd pobl sy'n byw gyda Dementia i'n hysbysu a dylanwadu ar newidiadau yn ein diwylliant

Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych: Cynllun Gweithredu Cryno

Mae Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych yn nodi'r hyn y mae angen ei wneud a chan bwy, i wneud tyfu'n hŷn yn Sir Ddinbych gystal ag y gall fod.

Gwybodaeth ar gyfer staff Cyngor Sir Ddinbych

Cofiwch ddiweddaru eich cofnod iTrent pryd bynnag y byddwch yn cwblhau hyfforddiant – cyfrifoldeb y gweithiwr yw hyn ac mae'n sicrhau bod ein cofnodion yn gywir.

Canllaw hunanwasanaeth i weithwyr (ESS) (PDF, 941KB)

Mae sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar gael o amrywiaeth o ffynonellau.