Cerdyn argyfwng gofalwyr

Mae cerdyn argyfwng gofalwyr yn gerdyn y gallwch chi ei gario efo chi pan rydych chi'n mynd allan o’ch tŷ. Os digwydd i chi gael damwain neu fynd yn sâl, bydd y gwasanaethau brys yn gwybod bod rhywun gartref methu ymdopi heboch chi. 

Sut mae'n gweithio?

Pan rydych chi’n cofrestru, byddwch yn rhoi manylion y person rydych chi’n gofalu amdano ynghyd â manylion cyswllt un / dau berson sy’n medru cymryd eich lle pan fo argyfwng. Bydd yr wybodaeth yma yn cael ei gofrestru hefo Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych.

Fe ddylech chi enwebu pobl sy’n adnabod y person rydych chi’n gofalu amdano ac yn gwybod faint o gymorth a chefnogaeth sydd ei angen arno. Bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn fodlon i’r Llinell Ofal gysylltu â nhw a bydd yn rhaid iddyn nhw wybod sut i gyrraedd eich cartref a beth sydd angen ei wneud.

Pan fo argyfwng, a phan mae’r gwasanaethau brys yn canfod eich cerdyn yn eich pwrs neu waled, byddan nhw’n cysylltu â ni ac yn dyfynnu’r rhif unigryw sydd ar eich cerdyn. Byddwn wedyn yn cysylltu ag un o’r bobl rydych chi wedi ei enwebu fel bod modd iddo/iddi gymryd eich lle.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n adnabod unrhyw un addas i gymryd eich lle, fe allwch chi gofrestru'r un fath. Yn yr achosion hyn, pan fo argyfwng, bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb.

Cerdyn argyfwng gofalwyr: taflen wybodaeth (PDF, 267KB)

Sut fedra i dderbyn cerdyn argyfwng gofalwyr?

Mae cynllun cerdyn argyfwng gofalwyr yn cael ei redeg gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS). I gofrestru, fe allwch chi naill ai anfon e-bost at denbighshire@newcis.org.uk neu ffonio 01745 331181.

Pob blwyddyn bydd NEWCIS yn anfon ffurflen atoch chi i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod iddyn nhw os oes unrhyw beth yn newid fel bod modd iddyn nhw roi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.