Cynllun Talebau Pontio'r Bwlch

Mae'r cynllun talebau Pontio'r bwlch yn darparu cefnogaeth i’r sawl rydych yn gofalu amdanynt yn y cartref a’ch galluogi chi, y gofalwr, i gael egwyl. Mae’r cynllun hwn yn darparu hyd at 16 awr o gefnogaeth dros gyfnod o 6 mis, y gellir ei ddefnyddio’n hyblyg.

Sut i drefnu'r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ond gellir ond cael mynediad iddo os cytunir ei fod yn ganlyniad priodol drwy asesiad o anghenion gofalwr.

Dysgwch sut i gael asesiad o anghenion gofalwr