Gofalwyr ifanc

Os ydych chi dan 18 oed ac yn edrych ar ôl aelod o’ch teulu sydd â salwch hirdymor neu anabledd, yna fe all Gofalwyr Ifainc WCD (gwefan allanol) eich helpu. Gallant gynnig: 

  • cyngor a gwybodaeth
  • cefnogaeth un-i-un (a chefnogaeth i’r person rydych chi’n gofalu amdano) 
  • cyfleoedd i chi gyfarfod â gofalwyr ifanc eraill 
  • teithiau a gweithgareddau 
  • rhywun i siarad ar eich rhan

Cewch mwy o wybodaeth ar wefan Gofalwyr Ifanc WCD (gwefan allanol).

Sut i dderbyn cymorth a chefnogaeth

Ffoniwch ni ar 01824 712200. Os na fedrwn ni ateb, gadewch neges ac mi wnawn ni eich ffonio’n ôl .

Neu, fe allwch chi anfon e-bost at porthcpt@sirddinbych.gov.uk.

Beth ydi gofalwr ifanc?

Mae gofalwr ifanc yn aml iawn yn helpu aelod o’r teulu gydag amryw o dasgau a fyddai, fel rheol, yn cael eu gwneud gan y person hwnnw. Fe all y tasgau gynnwys:

  • helpu i ymolchi a newid 
  • helpu gyda meddyginiaethau 
  • helpu’r person i godi a mynd i’r gwely 
  • siopa, coginio a glanhau’r tŷ 
  • casglu budd-daliadau a thalu biliau 
  • mynd efo’r person i apwyntiadau 
  • darllen ac egluro cynnwys llythyrau 
  • cadw cwmni a chodi calon y person

Mae gofalu am rywun yn gallu effeithio ar:

  • eich gwaith ysgol / coleg 
  • eich bywyd cymdeithasol fel cyfarfod â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau 
  • yr amser rydych chi’n ei gael i chi’ch hun 
  • sut rydych chi’n teimlo amdanoch chi’ch hun

Os ydych chi’n ymgymryd â’r dyletswyddau uchod ac os ydych chi’n teimlo eich bod yn ofalwr ifanc, yna cysylltwch â ni ac mi wnawn ni eich helpu.