Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) (gwefan allanol)  yn gyfle cyffrous i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda’i gilydd i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae’n gofyn i ni feddwl mwy am ganlyniadau hirdymor ein penderfyniadau a cheisio atal problemau cyn iddyn nhw ddigwydd.

Pwrpas y Ddeddf

Gwyliwch y fideo byr (gwefan allanol) hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n disgrifio pwrpas y Ddeddf, a sut y dylai fod o fudd i bobl Cymru yn y dyfodol.

Elfennau allweddol y Ddeddf

Ceir mwy o wybodaeth hefyd drwy ddarllen y Canllaw Hanfodion (gwefan allanol) hwn. O bwys arbennig yw'r saith nod lles cenedlaethol, a pum egwyddor Datblygu Cynaliadwy y mae'n rhaid i ni eu defnyddio yn ein gwaith.

Beth mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud?

Ers cyflwyniad y Ddeddf yn gynnar yn 2016, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i greu Asesiad Lles o’n hardal leol, a gallwch ddarllen hwn ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych (gwefan allanol).

Fel cyrff cyhoeddus mae’n angenrheidiol i ni adolygu ein Hamcanion Llesiant bob blwyddyn – yr amcanion hyn sy’n ffurfio sail ein Cynllun Corfforaethol. Os teimlwch fod gennych rywbeth i’w gyfrannu at yr asesiad o’n Cynllun Corfforaethol, rhowch wybod i ni drwy fynd i timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.

Mae’r Cyngor wedi gwreiddio’r pum egwyddor datblygiad cynaliadwy yn ei brosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn  rhan o ‘fusnes fel arfer’. 

Effaith y Ddeddf y tu allan i'r Cyngor

Mae gan y Ddeddf hon oblygiadau y tu hwnt i Gyngor Sir Ddinbych hefyd. Yn gyfreithiol, byddwn yn ffurfio rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) lleol, a fydd hefyd yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub ac Iechyd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill y mae'r BGC yn dewis eu gwahodd (ac sy’n derbyn y gwahoddiad). Mae'n ofyniad cyfreithiol i’r Bwrdd hwn gynhyrchu Asesiad Lles o’r ardal leol sy’n sail i’w Gynllun Lles ei hun. Mae'n rhaid i Gynllun Lles y BGC gynnwys yr hyn y bydd cyrff y Bwrdd yn ei wneud ar y cyd i gwrdd â'r nodau lles cenedlaethol. Yna mae'n rhaid i bob sefydliad unigol gynhyrchu ei Gynllun Lles ei hun, gan gynnwys beth fydd yn ei wneud i gyfrannu at y nodau lles o fewn ei ardal o arbenigedd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf drwy ymweld â gwefan y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfofol Cymru (gwefan allanol). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud am y Ddeddf, e-bostiwch strategic.planning@denbighshire.gov.uk.