Iechyd a gofal cymdeithasol: datganiad sefyllfa'r farchnad

Rydym yn comisiynu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth i oedolion gan sawl gwahanol sefydliad. Mae'n hanfodol bod y gwasanaeth a ddarperir gan y sefydliadau hyn yn diwallu anghenion pobl Sir Ddinbych, a'u bod yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol.

Un o'r prif ffyrdd o ysgogi marchnad amrywiol ar gyfer gofal a chymorth, sy'n cynnig dewis go iawn i bobl, yw drwy Datganiad Sefyllfa'r Farchnad.

Nod Datganiad Sefyllfa’r Farchnad yw:

  • nodi ein cynnig i’r farchnad
  • cyflwyno darlun o'r galw a’r darpariaethau cyfredol, a thueddiadau posibl yn y dyfodol
  • cyflwyno barn y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau
  • cefnogi darparwyr i wneud penderfyniadau busnes a buddsoddi rhagweithiol
  • atal darparwyr rhag gwastraffu adnoddau ar fentrau wedi eu targedu’n wael
  • helpu darparwyr i ymateb i anghenion a chyfleoedd lleol
  • gweithredu fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau rhwng yr Awdurdod Lleol a'r rhai sy'n darparu, neu'n dymuno darparu gwasanaethau

Iechyd a gofal cymdeithasol: datganiad sefyllfa'r farchnad 2021 i 2024 (PDF, 468KB)