Deddf Gallu Meddwl

Mae’r Deddf Galluedd Meddyliol Mental Capacity Act (MCA) (gwefan allanol) wedi ’i lunio i ddiogelu ac i roi grym i unigolion a all fod â'r diffyg galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu gofal a'u triniaeth. Mae’n gyfraith sy’n berthnasol i unigolion 16 oed a throsodd.

Pam bod arnom angen Deddf Galluedd Meddyliol?

Mae Deddf Galluedd Meddylion yn gosod mewn cyfraith yr hyn sy’n digwydd i bobl sydd methu â gwneud penderfyniadau, er enghraifft, pan nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniad penodol.  Mae Deddf Galluedd Meddyliol yn rhoi diogelwch a chefnogaeth os ydych yn gweld eich hun mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i sefyllfaoedd lle na allech wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol. Ni ddylid cymryd bod gan bobl sydd yn byw gyda dementia, problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu y diffyg gallu ym mhob agwedd o’u bywyd dyddiol.

Mae’r mathau o benderfyniadau y mae’r Ddeddf yn ei gynnwys yn amrywio o benderfyniadau dydd i ddydd megis beth i’w wisgo neu ei fwyta, i benderfyniadau difrifol ynghylch lle gallwch fyw, neu benderfynu os ydych angen llawdriniaeth neu beth i wneud gyda'ch arian a'ch eiddo.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol yna i:

  • gryfhau hawliau pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chael eu cefnogi i wneud hynny;
  • diogelu'r rhai hynny a all fod â diffyg gallu i wneud penderfyniad penodol;
  • nodi ym mha sefyllfaoedd y gall pobl eraill wneud penderfyniadau a gweithredu ar eich rhan os na allech chi wneud hynny;
  • sicrhau eich bod yn rhan o benderfyniadau sy’n eich effeithio drwy hyrwyddo eich buddiannau gorau; a
  • helpu i ddatrys anghydfodau.

Pum Egwyddor o Ddeddf Galluedd Meddyliol

Mae'r Ddeddf yn nodi 5 egwyddor allweddol y mae'n rhaid eu dilyn wrth geisio penderfynu a yw’r gallu gan rywun i wneud penderfyniad penodol:

  • Rhaid cymryd bod y gallu gan rywun oni phrofir fel arall 
  • Ni ddylid trin rhywun fel bod yn methu gwneud penderfyniad oni bai bo pob cam ymarferol i'w helpu i wneud hynny wedi cael eu cymryd heb lwyddiant
  • Ni ddylid trin rhywun fel pe baent yn methu gwneud penderfyniad dim ond oherwydd eu bod wedi gwneud penderfyniad annoeth
  • Rhaid gweithredu neu wneud penderfyniad o dan y Ddeddf Gallu Meddwl ar gyfer neu ar ran rhywun sydd â diffyg gallu er eu lles gorau
  • Cyn y gweithredir neu y gwneir penderfyniad, rhaid ystyried a yw'n bosibl gweithredu neu benderfynu mewn ffordd a fyddai'n amharu llai ar hawliau unigolyn a'i ryddid i weithredu

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.