Teleofal

Mae Teleofal yn fath penodol o dechnoleg gynorthwyol sy’n defnyddio synwyryddion a larymau i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi tra’n cynnal eu hannibyniaeth. Gall Teleofal gynorthwyo i leihau rhai o’r risgiau cyffredin megis syrthio ac methu codi neu adael tapiau’n rhedeg.

Gall Teleofal roi mwy o hyder i chi ynghylch aros gartref ar eich pen eich hun. Os ydych yn ofalwr gall eich sicrhau bod y person rydych yn gofalu amdano yn gallu galw am gymorth, a chael cefnogaeth pan nad ydych ar gael.

Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid

Bydd Openreach yn dod â’r rhwydwaith ffôn analog i ben ar ddiwedd 2025. Erbyn yr adeg honno, bydd pawb yn y DU wedi’u huwchraddio i linell ffôn ddigidol, a fydd yn darparu gwasanaeth mwy gwyrdd, cyflym a dibynadwy.

Darganfod mwy am uwchraddio’r DU i linellau ffôn digidol (dolen allanol)

Sut i archebu offer Teleofal

Gallwch ganfod pa offer sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi neu rywun arall, ac archebu drwy ddefnyddio'r ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Defnyddio ein ffurflen atgyfeirio ar-lein ar gyfer offer Teleofal

Neu, gallwch ein ffonio ar 0300 456 1000

Lleoliad

Community Equipment Integrated Service
Units A6 - A9
Pinfold Estate
Ffordd Derwen
Y Rhyl
LL18 2YR

Ffoniwch 01745 334245 i wneud apwyntiad.

Faint fydd yn ei gostio?

Mae ffi gosod untro o £50 a thâl misol o £17. Dyma’r ffi safonol ar gyfer ein gwasanaeth Teleofal ac mae’n cynnwys cost:

  • rhentu offer teleofal
  • monitro 24 awr
  • cynnal a chadw

Sut mae'n gweithio?

 

Mae teleofal yn cefnogi rhywun i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, gan roi sicrwydd a thawelwch meddwl.

Mae teleofal yn gweithio trwy eich cysylltu â gwasanaeth monitro sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd pwyso’r botwm ar eich larwm gwddf neu uned yn codi’r larwm gyda’r gwasanaeth monitro, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yna bydd y gwasanaeth monitro yn siarad gyda chi trwy’r uchelseinydd ar yr uned a chymryd camau priodol. Gallai hyn olygu cysylltu â:

  • aelod o’r teulu  
  • ffrind neu gymydog a enwebwyd
  • eich Meddyg Teulu
  • y gwasanaethau brys

Beth sy'n digwydd pan fydd y larwm yn canu?

Pan fydd larwm yn dechrau canu, naill ai oherwydd synhwyrydd, neu drwy wasgu eich larwm gwddf personol, byddwch yn cael eich cysylltu’n gyflym â staff sydd wedi'u hyfforddi yn y ganolfan fonitro.

Bydd gan y staff yr wybodaeth a roddwyd gennych pan osodwyd yr offer. Byddant yn gwybod eich enw a'ch amgylchiadau cyffredinol yn syth. Gallant siarad â chi yn uniongyrchol drwy uchelseinydd ar yr uned Teleofal i gael gwybod beth rydych ei angen ac i roi gwybod i chi bod cymorth ar ei ffordd.  

Unwaith y bydd y gweithredwr wedi sefydlu pa gymorth rydych ei angen, byddant yn trefnu i rywun ddod i’ch helpu. Gallai hwn fod yn aelod o'r teulu, cymydog, meddyg neu un o'r gwasanaethau brys.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.