Gwrychoedd

Gwybodaeth am wrychoedd gan gynnwys beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod gwrych uchel yn rhwystro golau i'ch eiddo, eich cartref neu'ch gardd, yn ogystal â chynnal a chadw gwrychoedd wrth ymyl y briffordd gyhoeddus (gan gynnwys tir fferm).

Gwrychoedd ar dir domestig

Perchnogion eiddo sy’n gyfrifol am ofalu am wrych ar eu tir ac am wneud yn siŵr nad yw’n niwsans i unrhyw un.

Os oes gennych broblem gyda gwrych ar eiddo rhywun, rydym yn argymell eich bod yn trafod y mater gyda’r perchennog cyn gwneud cwyn i ni.

Mae arweiniad ar gael gan gov.uk ar sut i drafod problem am wrych.

Gweld yr arweiniad: Over the garden hedge (gwefan allanol)

Cynnal a chadw gwrychoedd wrth ymyl y briffordd gyhoeddus (gan gynnwys tir fferm)

Perchennog y tir drws nesaf i'r briffordd sy'n gyfrifol am wrychoedd a choed ar wrychoedd sy'n ffinio â hi. Mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd gofal i'w harchwilio a'u cynnal a'u cadw'n rheolaidd. Cadwch y canlynol mewn cof:

  • rydym yn cynghori torri'r gwrychoedd yn yr hydref neu'r gaeaf mewn modd diogel ac amserol
  • dylid torri ar adegau tawel o'r dydd os yn bosibl er mwyn lleihau anghyfleustra i ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • gosodwch arwyddion adlewyrchol priodol pan fydd gwaith fferm yn effeithio ar y briffordd
  • bod yn ofalus gydag arwyddion ac os caiff unrhyw arwydd ei daro neu ei symud, dylid sicrhau eu bod yn cael eu gosod yn ôl yn eu lle yn syth bin
  • dylid ystyried cynefinoedd naturiol megis adar yn nythu o fewn y cloddiau a dolydd blodau gwyllt
  • rhaid symud yr holl doriadau oddi ar y briffordd, llwybrau troed a ffosydd cyn gynted â phosibl gan fod methu â gwneud hynny yn drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (gwefan allanol) a gallai costau symud gael eu codi ar y tirfeddiannwr

Gwneud cwyn neu riportio problem am wrych

Gallwch riportio’r canlynol i ni:

  • cwynion am wrychoedd uchel
  • gwrychoedd wedi gordyfu ar gyffordd
  • toriadau gwrychoedd ar lwybr beicio

Dewiswch un o'r penawdau canlynol i gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cwyn neu riportio problem am wrych.

Gwrychoedd Uchel

O dan Ran 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, rydym yn delio â chwynion lle mae gwrychoedd uchel yn:

  • gweithredu i ryw raddau fel rhwystr i oleuni neu olygfeydd
  • yn cynnwys 2 neu fwy o goed neu lwyni
  • bythwyrdd neu led fythwyrdd yn bennaf
  • mwy na 2 fetr o uchder

Ni allwn ymchwilio i lwyni neu goed unigol, na lle mae gwreiddiau gwrychoedd yn achosi difrod.

Ffi

Y ffi i ni ymchwilio i gŵyn am wrych uchel yw £240. Nid oes modd ad-dalu’r ffi i chi.

Gwneud cwyn am wrych uchel

Cyn gwneud cwyn am wrych uchel, cofiwch:

  • rydym yn argymell eich bod yn ceisio datrys y broblem gyda'r perchennog yn gyntaf
  • gallwn wrthod cwyn yr ydym yn ei hystyried yn flinderus neu os na chymerwyd pob cam rhesymol i ddatrys y mater cyn gwneud cwyn
  • ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion dienw

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ymchwiliad gwrych uchel os hoffech wneud cwyn am wrych uchel.

Ffurflen gais am ymchwiliad i wrych uchel (PDF, 223KB)

Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cwyn?

Ar ôl derbyn ffurflen gais ymchwiliad gwrych uchel, byddwn yn penderfynu a fyddwn yn ymchwilio i'r gŵyn ai peidio.

Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwn yn hysbysu'r achwynydd a pherchennog y gwrych.

Ymchwilio i gŵyn

Os byddwn yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, byddwn yn gweithio allan a yw uchder y gwrych yn achosi colled golau i eiddo.

Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi pŵer cyfreithiol i ni fynd ar dir i ymchwilio i gŵyn gwrych uchel.

Ni fydd terfyn amser o ran pryd y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniad. Bydd ein penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, yn cael eu hanfon at yr achwynydd a pherchennog y gwrych.

Hysbysiad adfer

Os oes angen, byddwn yn rhoi ‘hysbysiad adfer’ i berchennog y gwrych. Bydd hwn fel arfer yn nodi pa gamau adferol sydd eu hangen a’r cosbau y bydd perchennog y gwrych yn ei gael os bydd yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

Daw'r hysbysiad yn arwystl ar yr eiddo ac mae rhwymedigaethau cyfreithiol o dan rybudd o'r fath yn cael eu trosglwyddo i unrhyw berchnogion dilynol.

Apeliadau

Rhaid i unrhyw apêl gan berchennog y gwrych yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud yn ysgrifenedig a’i anfon at Lywodraeth Cymru o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad.

Gall yr achwynydd apelio i Lywodraeth Cymru os byddwn yn penderfynu peidio â rhoi hysbysiad adfer neu os byddwn yn cyhoeddi ac yna’n tynnu hysbysiad yn ôl.

Gall y naill barti neu'r llall apelio ar y sail bod y gofynion naill ai'n ormod neu ddim yn ddigon.

Sut i apelio

Os hoffech apelio, bydd angen i chi lenwi ffurflen apêl Gwrychoedd Uchel.

Ewch i llyw.cymru i lawrlwytho ffurflen apêl (gwefan allanol)

Problemau gyda gwrychoedd ar lwybr beicio neu gyffordd

Gallwch roi gwybod am wrych sydd wedi gordyfu wrth gyffordd neu doriadau gwrychoedd ar lwybr beicio trwy ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am broblem gyda choed, glaswellt neu wrychoedd.

Rhoi gwybod am broblem gyda glaswellt, coed neu wrychoedd ar-lein

Peryglon ar y ffordd

Os oes gwrych yn achosi perygl ar y ffordd, gallwch roi gwybod i ni amdano drwy’r ffurflen ar-lein riportio perygl ar y ffordd.

Riportio perygl ar y ffordd ar-lein