Rhowch Gynnig ar y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Y rheolau ar gyfer cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yw:

    • Un llun yn unig gan bob unigolyn
    • Rhaid i chi fod wedi tynnu’r llun a rhaid i’r holl hawliau iddo fod yn eiddo i chi (gweler hawliau o ran y lluniau)
    • rhaid i’ch llun fod wedi’i dynnu ar dir Cyngor Sir Ddinbych
    • mae’n rhaid i’r llun:
      • fod wedi’i gyflwyno ar ffurf JPG, JPEG neu PNG
      • fod gyda manylion o ble tynnwyd y llun
      • fod â thestun i gyd-fynd ag o neu â dyfyniad yr hoffwch ynghylch natur
    • ni ddylai lluniau:
      • fod yn fwy na 10MB o ran maint ffeil
      • fod wedi eu tynnu ar dir preifat
      • fod â dyfrnod, stensil, ymyl na llofnod ar y ddelwedd
      • gynnwys unrhyw unigolyn y gellir ei adnabod sydd heb roi eu caniatâd i fod yn y llun
      • dresmasu ar hawlfraint unrhyw un arall