Rhoi gwybod am broblem

Rydym ni’n delio â materion nwyd yn Sir Ddinbych. Os yw eich cwyn am fusnes y tu allan i’r sir, yna gysylltwch â’r awdurdod lleol perthnasol.

Cwynion bwyd

Os ydych yn prynu unrhyw fwyd neu ddiod nad ydych yn hapus ag ef dylech gysylltu â’r siop, cynhyrchwr neu gyflenwr lle wnaethoch brynu’r nwyddau i ddechrau.

Mae ein Tîm Diogelwch Bwyd yn delio gyda materion bwyd sy’n risg i iechyd y cyhoedd yn unig, fel:

  • bwyd anaddas i’w fwyta, e.e. cig wedi pydru
  • bwyd wedi’i halogi e.e. caws wedi llwydo
  • darganfod eitem yn y bwyd na ddylai fod yno, e.e. bollt mewn torth o fara
  • bwyd wedi’i gam-ddisgrifio, pwysau anghywir neu wedi’i lygru, gan gynnwys gwerthu cynnyrch nad yw’n bur
  • bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion cyfansoddiadol a labelu, gan gynnwys mynd heibio’r dyddiad ‘Defnyddio erbyn’
  • lle gall gynnwys twyll

Efallai na fydd rhai cwynion bwyd yn derbyn sylw gan y gall pethau fynd o chwith gyda bwyd sydd heb lawer neu ddim effaith ar iechyd. 

Cwynion busnes bwyd

Os ydych yn bryderus am arferion trin bwyd neu safonau glanweithdra mewn busnes bwyd yn Sir Ddinbych gallwch gysylltu â ni fel y gallwn ymchwilio i’r mater.

Ni fydd pob cwyn yn cael ei hymchwilio gan na fydd yn achosi llawer neu dim risg o gwbl i iechyd. Yn yr achos hwn bydd y wybodaeth yn cael ei chofnodi ar ffeil yr eiddo ac yn cael ei hystyried yn ystod arolygiad arferol nesaf y safle.

Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion dienw na chwyn gwenwyn bwyd honedig cyn i chi ymweld â’ch meddyg teulu.