Cwynion sŵn

Gallwn ymchwilio cwynion am sŵn ynglŷn â’r canlynol:

  • gweiddi, miwsig neu deledyddion uchel
  • sŵn o safleoedd masnachol neu ddiwydiannol
  • gweithgareddau DIY
  • larymau
  • trwsio ceir

Os oes gennych gŵyn am gi sy’n cyfarth, gweld ein tudalen materion cŵn am gyngor.

Cwynion am sŵn na allwn ymdrin â nhw:

Cyn i chi wneud cwyn

Ni ellir ystyried pob sŵn sy’n effeithio ar berson yn niwsans y gallwn weithredu arno, felly pan fydd hynny’n bosib, byddem yn eich annog i geisio datrys y broblem eich hun heb wneud cwyn ffurfiol. Gall y wefan Cymdogion Problemus eich helpu i wneud hyn.

Cysylltwch â ni i gwyno am sŵn 

Wedi i chi wneud y gŵyn

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cwyn, byddwn yn anfon taflen log atoch chi er mwyn i chi gofnodi manylion y sŵn sy’n digwydd, neu os oes gennych ffon clyfar gallwch lawrlwytho’r Ap Sŵn 2.0 a gwneud recordiad sain 3o eiliad I’w anfon atom. Efallai y byddwn hefyd yn ysgrifennu at y person/cwmni sy’n gyfrifol am y sŵn i roi gwybod iddyn nhw bod cwyn wedi ei gwneud. Byddwn yn edrych ar y manylion rydych chi wedi eu cofnodi yn eich taflen log ac mae'n bosib y byddwn yn trefnu ymweliad monitro naill ai mewn person neu yn defnyddio offer recordio.

Nid ydym byth yn rhyddhau manylion yr achwynydd heb awdurdod y person hwnnw, heblaw am resymau cyfreithiol yn ddiweddarach yn yr ymchwiliad a’r achos gorfodi.

Anfonwch recordiadau sŵn i ni gan ddefnyddio’r Ap Sŵn 2.0

Os oes gennych chi ffôn clyfar gallwch ddefnyddio’r Ap Sŵn 2.0 i anfon recordiadau sŵn i ni i gefnogi eich cwyn am sŵn.  Efallai na all y clipiau sain benderfynu a yw’r sŵn yn niwsans statudol, ond gallant fod yn ddefnyddiol i benderfynu ar lefel blaenoriaeth, a helpu i symud eich cwyn yn ei flaen yn gyflym. 

Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod am fater yn ymwneud â llygredd sŵn cyn anfon recordiad sŵn.

Mwy o wybodaeth am yr Ap Sŵn 

(Dim ond yn y Saesneg mae'r fideo hwn ar gael)

Am gyfarwyddiadau mwy manwl ar ddefnyddio’r Ap Sŵn, gallwch ddarllen y canllaw:

Yr Ap Sŵn: canllawiau defnyddiwr (PDF, 289KB)

Rhybudd Atal Sŵn

Os yw’r archwiliad yn canfod bod y sŵn yn niwsans, yna byddwn yn cyflwyno rhybudd atal sŵn i geisio lleihau’r sŵn. 

Cwynion dienw

Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion dienw.  Caiff cwynion eu trin yn gyfrinachol, a bydd eich manylion yn cael eu diogelu.  Fodd bynnag, mae angen i ni wybod sut y gallwn gysylltu â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar unrhyw ymchwiliad.