Radon yn y cartref ac yn y gweithle

Nwy ymbelydrol di-liw, diarogl ydi radon a ffurfiwyd gan bydredd symiau bychan o wraniwm sy’n digwydd yn naturiol mewn creigiau a phriddoedd.

Mae llawer o adeiladau’n cynnwys radon ond bydd y lefelau fel rheol yn isel ac mae’r risg i iechyd yn isel. 

Sut allaf i wirio a ydw i mewn perygl?

Mae’r ardaloedd tywyllach ar fap radon y DU (gwefan allanol) yn dangos lle mae’r lefelau’n fwy tebygol o fod yn uwch. Ni fydd pob adeilad, hyd yn oed yn yr ardaloedd tywyllaf, â lefelau uchel ond gallwch archebu pecyn profi i fesur lefel y nwy radon yn eich gweithle (gwefan allanol). Mae’r prawf yn saff ac yn syml i’w ddefnyddio ac fe gaiff y canlyniadau eu trin yn gyfrinachol.

Beth i’w wneud os oes yna lefelau uchel o radon yn eich cartref

Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi cynghori y dylid gostwng radon dan do sy’n uwch na lefel 200 becquerel y fedr giwbig (Bq m-3).
Os byddwch yn mesur lefelau uwch o radon yn eich cartref, yna dylech gymryd camau i ostwng y lefelau hyn; weithiau gallai hynny olygu selio o gwmpas agoriadau atig neu agoriadau mawr mewn lloriau ac awyriad ychwanegol ar gyfer y gofod byw.

Sut i leihau lefelau radon (gwefan allanol)

Beth i’w wneud os bydd eich gweithle â lefelau radon uchel

Os bydd lefel radon mewn unrhyw ran o’ch gweithle dros 400 Becquerels y fedr giwbig (Bq m-3), mae’n rhaid i’r cyflogwr gymryd camau ac mae’n rhaid hysbysu staff o’u risg ac enwebu aelod cyfrifol o’r staff i arolygu cynnydd gyda mesurau diogelu.

Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn cymeradwyo cynllun pum pwynt i gyflogwyr sydd mewn Ardaloedd a Effeithir gan radon:

  • Mesur Profi am radon ar y llawr gwaelod ac isloriau a feddiennir
  • Gwyliadwriaeth Parhau i fonitro nes bydd camau adferol wedi eu cwblhau
  • Asesiad risg Gosod blaenoriaethau ar gyfer gweithredu’n seiliedig ar lefelau radon
  • Lliniaru Cwblhau camau adferol o fewn chwe mis
  • Cynnal Cynnal profion cyfnodol a gwiriadau arferol

Sut i leihau lefelau radon (gwefan allanol)