Newid hinsawdd ac ecolegol: Beth rydym yn ei wneud fel cyngor
Rydym wedi ymrwymo i leihau newid Hinsawdd ac Ecolegol trwy:
Cyflawni ar Flaenoriaeth Amgylcheddol ein Cynllun Corfforaethol (2017-2022)
Mae sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei gwarchod yn un o’r blaenoriaethau yn ein cynllun corfforaethol. Mae’r targedau’n cynnwys:
- lleihau allyriadau carbon
- Cynyddu nifer y coed yn y sir
- Gwella bioamrywiaeth
Darganfod mwy am ein blaenoriaeth gorfforaethol: Amgylchedd
Cyflawni ar ein dyletswyddau statudol
Bioamrywiaeth
Mae Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (gwefan allanol) yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl awdurdodau lleol “geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth”, ac wrth wneud hynny “hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau”.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith ar ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, ewch i:
Allyriadau carbon
Gosododd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (gwefan allanol) darged o leihau allyriadau carbon yng Nghymru gan o leiaf 80% erbyn 2050 (o'u lefelau cyn-1990).
Yn 2017, datganodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig uchelgais ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn carbon niwtral erbyn 2030.
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflawni Carbon Isel Cymru; Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (gwefan allanol) sy’n cynnwys gofyniad i’r sector cyhoeddus nodi llinell sylfaen, monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at niwtralrwydd carbon” (polisi 20).
Cyflawni ar y camau gweithredu o fewn ein Datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol
Sefydlwyd gweithgor ym mis Hydref 2019 i annog a herio ein cynnydd tuag at y camau gweithredu a amlinellwyd yn ein datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.
Roedd yn cynnwys 2 gynrychiolydd o bob plaid wleidyddol sy’n cynrychioli aelodau etholedig y cyngor.
Gweld mwy o wybodaeth am y Gweithgor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.
Datblygu ein Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol (2021/22-2029/30)
Ers datgan yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019, rydym wedi bod yn datblygu cynlluniau i ddod yn gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030.
Gofynnom am eich adborth ar ein nodau di-garbon ac ecolegol gadarnhaol net yn ogystal â'ch syniadau ar sut y gallwn eu cyflawni erbyn 2030. Gan adeiladu ar eich syniadau rydym yn gweithio gydag Aelodau a Swyddogion o bob rhan o'r cyngor i ddatblygu ein Strategaeth a Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd ac Ecolegol (2021/22 - 2029/30) y gobeithiwn ymgynghori arno gyda'r cyhoedd ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2020.
Ystyried trechu Newid Hinsawdd ac Ecolegol yn yr holl benderfyniadau a wnawn
Rydym yn falch i fod yn un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gael trechu newid hinsawdd ac ecolegol fel egwyddor arweiniol yn ein proses wneud penderfyniadau.
Gwrando ar eich barn
Rydym eisiau clywed eich barn ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i leihau newid hinsawdd ac ecolegol.
Byddwn yn cynnal ymgynghoriadau a fforymau i chi gael dweud eich dweud. Gallwch ymuno â'r Panel ar Sgwrs y Sir i gymryd rhan a derbyn diweddariadau a gwybodaeth ymgynghori ar newid hinsawdd ac ecolegol.