Bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth, sy’n fyr am amrywiaeth biolegol, yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r amrywiaeth o fywyd a geir ar y Ddaear a'r holl brosesau naturiol. Mae hyn yn cynnwys ecosystem, amrywiaeth genetig a diwylliannol, a'r cysylltiadau rhwng y rhain a'r holl rywogaethau. Fel corff cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i ystyried bioamrywiaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith.

Ewch i denbighshirecountryside.org.uk (gwefan allanol) i wybod mwy am fioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir

Mae rhywfaint o fioamrywiaeth yn cael ei diogelu gan y gyfraith. Mae rhai rhywogaethau yn cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop, sy’n fras yn gwahardd lladd, anafu, cymryd neu werthu anifeiliaid a phlanhigion gwyllt a restrir yn yr atodlen briodol. Gwarchodir eu mannau lloches neu fridio hefyd.

Rhywogaethau warchodir (PDF, 369KB)

Gall ardaloedd o’r amgylchedd gael eu dynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig. Mae safleoedd sy'n bwysig yn lleol yn cael eu dynodi fel Safleoedd Bywyd Gwyllt.

Safleoedd gwarchodedig (PDF, 1.31MB)

Mae rhai rhywogaethau a chynefinoedd yn flaenoriaethau ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru o dan Adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig. Gallwch ddarganfod pa rywogaethau a chynefinoedd yw’r rhain drwy ddarllen y dogfennau canlynol;

Gwaith cynllunio

Mae'n bwysig bod bioamrywiaeth yn cael ei ystyried yn gynnar yn y broses gynllunio er mwyn osgoi oedi a/neu gostau ychwanegol. Yn dibynnu ar eich cynnig, efallai y bydd angen i chi gyflwyno arolygon ecolegol a chynigion lliniaru fel rhan o'ch cais cynllunio. 

Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Cadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i’ch tywys trwy’r broses gynllunio a dylid cyfeirio ato cyn cyflwyno eich cais. 

Gallwch anfon e-bost atom i drafod hyn ymhellach.

Arolygon Ystlumod a Chanllawiau Arferion Da

Dylai ecolegwyr sy’n cynnal arolygon ystlumod ac yn cyflwyno adroddiadau o blaid ceisiadau cynllunio fod yn gyfarwydd â, a chyfeirio at, ‘Collins, J. (ed.) (2023) Bat Surveys for Professional Ecologists: Good Practice Guidelines (4th edition)’. Mae hwn yn disodli ‘Collins, J. (ed.) (2016) Bat Surveys for Professional Ecologists: Good Practice Guidelines (3rd edition)’. Cafodd y testun ei baratoi gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT) (gwefan allanol), ei drafod gydag arbenigwyr mamaliaid y Cyrff Cadwraeth Natur Statudol (SNCB), a gytunodd arno, a’i adolygu cyn ei gyhoeddi gan Fwrdd Adolygu Technegol.

O 2025 ymlaen, rydym yn disgwyl i gymhorthion gweld yn y nos (NVAs) gael eu defnyddio fel protocol safonol yn hytrach na dull dewisol neu ategol wrth gynnal arolygon ymddangosiad ystlumod ar adeiladau a choed. Bydd angen cyfiawnhau’r dewis i beidio â defnyddio NVAs yn unrhyw adroddiad gan ymgynghorydd ecolegol sydd o blaid cais cynllunio.

Ni ddylai ecolegwyr heb drwydded arolygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fynd i glwydfannau ystlumod hysbys na safleoedd lle canfuwyd arwyddion o bresenoldeb ystlumod (neu bresenoldeb posib ystlumod). Hyd yn oed os na chanfuwyd arwyddion o ystlumod, dim ond ecolegwyr gyda thrwydded arolygu ar gyfer y gweithgarwch perthnasol ddylai gynnal arolygon o glwydfannau posib. Nid oes angen trwydded i gynnal arolygon ymddangosiad os nad oes perygl o amharu ar yr ystlumod.

Diddymwyd arolygon ailfynediad i glwydfannau (a elwir hefyd yn arolygon gyda’r wawr) fel dull arferol o asesu presenoldeb neu absenoldeb tebygol ystlumod.

Bellach, argymhellir gadael o leiaf tair wythnos rhwng yr arolygon ystlumod, mwy yn ddelfrydol, er mwyn sicrhau’r cyfle gorau o ganfod clwydfannau mamolaeth, gan gynnwys cyn ac ar ôl genedigaeth.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am arolygon ecolegol at biodiversityplanning@denbighshire.gov.uk

Beth ydym yn ei wneud i helpu?

Rydym yn cynnal prosiectau drwy ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol o fudd i gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. I gael gwybod am ein prosiectau bioamrywiaeth (gwefan allanol).

Mwy o wybodaeth

Gallwch anfon e-bost atom i gael cyngor ar unrhyw agwedd ar fioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.