Adrodd am anifail marw ar y ffordd

Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu

Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Darganfod beth i’w wneud os ydych yn gweld adar wedi marw, gan gynnwys pwy i gysylltu â nhw a sut i ymdrin â nhw yn ddiogel.

Gallwch roi gwybod i ni am anifeiliaid marw rydych chi'n eu gweld ar y ffordd.

Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid gwyllt fel llwynogod a cheirw, anifeiliaid fferm fel defaid, ac anifeiliaid domestig fel cathod a chŵn.

Rhoi gwybod am anifail marw ar y ffordd

Rydym ni'n ceisio casglu anifeiliaid marw o fewn 3 diwrnod.

Rhoi gwybod am ddamwain car gydag anifail

Os ydych chi'n taro unrhyw un o'r anifeiliaid canlynol, mae'n rhaid i chi stopio a rhoi gwybod i'r heddlu am y ddamwain:

  • cŵn
  • ceffylau
  • gwartheg
  • moch
  • geifr
  • defaid
  • asynnod a mulod

Mae'n rhaid i chi roi gwybod am bob damwain o fewn 24 awr, p'un ai yw'r anifail yn fyw neu beidio.

Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol).