Gwybodaeth am amserlenni bws.
Cau Bridge Road, Prestatyn o ddydd Llun 28 Medi tan ddydd Gwener 23 Hydref 2026
Newidiadau i wasanaethau bws
Safleoedd bws Bridge Road / Gwesty’r Victoria
Ni fydd gwasanaethau bws ar gael wrth y safleoedd hyn. Bydd rhaid i deithwyr gerdded i’r orsaf fysiau.
Marine Road (rhwng SuHail a Llys Nant)
Ni fydd bysiau rhif 11 Arriva yn teithio ar hyd Marine Road. Bydd bysiau rhif 35 a 36 yn cael eu hailgyfeirio ar hyd y ffordd yma ac yn casglu teithwyr.
Ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad Treffynnon - ewch ar fws rhif 35 Arriva o safle bws ar Marine Road i’r orsaf fysiau. Newidiwch i fws rhif 11 Arriva i fynd i Dreffynnon.
Ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad Y Rhyl - ewch ar fws rhif 36 Arriva.
Victoria Road a Sandy Lane
Ni fydd bws rhif f18 Gwasanaeth P&O Lloyd yn teithio ar hyd Sandy Lane a Victoria Road.
Ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad Y Fflint - ewch ar fws rhif 35 Arriva o Victoria Road i’r orsaf fysiau ac yna ewch ar fws f18.
Ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad Y Rhyl - ewch ar fws rhif 36 Arriva.
Fel arall, gallwch gerdded i’r orsaf fysiau i ddal y gwasanaeth f18.
Bydd hysbysiadau yn cael eu rhoi ar yr holl safleoedd bysiau a effeithir gan y newidiadau.
Amserau bysiau ar eich ffôn symudol
Darganfyddwch sut i gael amseroedd bws yn syth i’ch ffôn symudol:
Ewch i wefan Traveline Cymru (gwefan allanol)
Arriva
Holl amserlenni gwasanaeth bws Arriva (gwefan allanol)
Gwasanaethau Fflecsi
Gwasanaethau Gwledig De Sir Ddinbych
Gwasanaethau gwledig (192, 198) - De Sir Ddinbych - amserlen (PDF, 381KB)
Gwasanaethau P&O Lloyd
Gweld pob amserlen bws ar gyfer gwasanaethau P&O Lloyd (gwefan allanol)
Lloyd's Coaches
Gwasanaeth T3 TrawsCymru (Wrecsam - Corwen - Dolgellau - Abermaw) (gwefan allanol)
Gwasanaethau M&H
Gwasanaeth T8 (Corwen - Rhuthun - Yr Wyddgrug - Caer)
Mae gwasanaeth T8 nawr yn dod i ben ei daith yng ngorsaf rheilffordd Caer ac nid yr orsaf fysiau.
Mae M&H Coaches yn cynnig y gwasanaethau canlynol yn Sir Ddinbych:
- Gwasanaeth T8 (Corwen - Rhuthun - Yr Wyddgrug - Caer)
- Gwasanaeth 45-46-47 timetable (y Rhyl - Ysbyty Glan Clwyd)
- Gwasanaeth 54 (y Rhyl – Llanelwy)
- Gwasanaeth 76 (Dinbych - Rhuthun)
Gweld pob amserlen bws ar gyfer M&H Coaches (gwefan allanol)
Tanat Valley Coaches
Gwasanaethau cyhoeddus Tanat Valley Coaches (gwefan allanol)
Traveline Cymru
Ewch i wefan Traveline Cymru (gwefan allanol) i gael y newyddion teithio diweddaraf ac amserlenni teithio.
Fyngherdynteithio
Tocynnau cludiant cyhoeddus rhatach i bobl ifanc 16 – 21 oed yng Nghrymu.
Rhagor o wybodaeth am Fyngherdynteithio (gwefan allanol)
Rover Gogledd Cymru
Mae tocyn Rover Gogledd Cymru yn docyn gwych sydd yn eich galluogi chi i deithio ar fws neu drên o gwmpas gogledd Cymru. Gallwch brynu tocyn ar gyfer 2, 3 neu bob ardal.
Rover Gogledd Cymru (gwefan allanol).