Ffermio a’r briffordd

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ffermio i’r economi leol ac rydym eisiau gweithio gyda’r sector i sicrhau bod y briffordd yn cael ei defnyddio’n gyfrifol. Gall peth defnydd amaethyddol o’r briffordd achosi problemau sy’n arwain at gwynion gan ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Ffyrdd Sirol. Rydym ni’n gyfreithiol gyfrifol am ofalu am hawliau holl ddefnyddwyr y ffordd, sy’n cynnwys gyrwyr, cerddwyr, beicwyr a rhai sy’n marchogaeth. Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (gwefan allanol) sy’n rheoli cefnffyrdd yr A55, yr A5 a’r A494.

Dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (gwefan allanol) a deddfwriaeth arall, gallwn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth sy’n achosi niwsans neu rwystr gael ei symud o fewn cyfnod rhesymol neu ar unwaith os yw’n achosi perygl. Os anwybyddir ein cais, mae gennym rym i gymryd camau ein hunain ac adennill unrhyw gostau gan y rhai sy’n gyfrifol.

Er y gallai fod rai achosion pan nad oes dewis gennym ond gweithredu’n briodol, rydym bob amser eisiau gweithio gyda’r gymuned i gael y canlyniad gorau i bawb. Mae’r penawdau isod yn disgrifio sefyllfaoedd cyffredin a’r hyn sydd i’w ddisgwyl ym mhob achos.

Mwd ar y ffordd

Gall mwd hel ar y ffordd yn dilyn gwaith ffermio a symud da byw, sy’n gallu bod yn anghyfleus neu hyd yn oed yn beryglus i’r cyhoedd. Y ffermwr sy’n gyfrifol am atal mwd rhag hel drwy lanhau’r ffyrdd a’r llwybrau cerdded sydd wedi’u heffeithio’n rheolaidd, heb oedi. Mae methu â gwneud hynny’n drosedd dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (gwefan allanol).

Er mwyn ceisio atal mwd ar y briffordd, dylai ffermwyr a chontractwyr fod yn ymwybodol:

  • ei bod yn rhaid diogelu pob llwyth yn gywir ac na ddylid gorlwytho cerbydau
  • y dylech wirio eu cerbydau cyn ymuno â’r briffordd a thynnu unrhyw fwd gormodol
  • ei bod yn rhaid glanhau unrhyw fwd gormodol sy’n cael ei adael ar y briffordd cyn gynted â phosib’
  • y dylech atal mwd a dŵr wyneb lle bo modd (dylai darn caled rhwng y briffordd a llystyfiant helpu)

Rhoi gwybod am berygl ar ffordd

Cynnal a chadw gwrychoedd

Dysgwch am gynnal a chadw gwrychoedd wrth ymyl y briffordd gyhoeddus (gan gynnwys tir fferm).

Da byw

Dylai anifeiliaid gael eu gyrru ar y briffordd mewn modd diogel a dylech lanhau unrhyw fwd neu dail cyn gynted â phosib’.

Cerbydau amaethyddol

Mae’n rhaid i bob cerbyd fod yn addas ar gyfer y ffordd ac mae’n rhaid i’r lled gydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol. Osgowch y priffyrdd ar yr adegau prysuraf a helpwch draffig arall i basio’n ddiogel drwy dynnu i mewn i gilfannau neu fannau pasio pan fo angen.

Rhoi gwybod am faterion diogelwch traffig ffordd

Ffosydd a draeniau

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae perchennog tir ger y briffordd yn gyfrifol am helpu i’w chynnal a’i chadw drwy sicrhau draenio da. Cadwch y canlynol mewn cof:

  • ni ddylech osod pibelli mewn ffosydd heb ymgynghori gyda, a chael cymeradwyaeth gan Gyngor Sir Ddinbych
  • dylech glirio gridyllau, allanfeydd pibelli, tyllau dal llaid a nodweddion draenio eraill yn rheolaidd, yn enwedig yn yr hydref
  • dylech gadw dyfnder y ffos er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y system ddraenio

Rhowch wybod am broblem gyda gyli, geuffos neu twll archwilio

Arwyddion

Gofalwch am ddiogelwch cerddwyr a thraffig wrth weithio ar y briffordd drwy gofio’r canlynol:

  • cofiwch ddefnyddio’r arwyddion, mesurau gwarchod a’r goleuadau cywir a gofalu eu bod i’w gweld yn glir wrth ddod at yr ardal dan sylw
  • tynnwch yr arwyddion ar ddiwedd pob diwrnod gwaith ac ar ôl cwblhau’r gwaith
  • gwisgwch ddillad amddiffynnol (er enghraifft, dillad llachar) wrth wneud unrhyw waith
  • bod yn ofalus gydag arwyddion ac os caiff unrhyw arwydd ei daro neu ei symud, dylid sicrhau eu bod yn cael eu gosod yn ôl yn eu lle yn syth bin

Rhoi gwybod am broblem gydag arwydd traffig neu farciau traffig