Ffyrdd wedi'u mabwysiadu

Darganfyddwch a yw ffordd yn Sir Ddinbych wedi cael ei mabwysiadu gan y Cyngor (neu Llywodraeth Cymru yn achos cefnffordd).

Mae ffordd wedi’i mabwysiadu yn ffordd sy’n cael ei chynnal a’i chadw ar draul y cyhoedd. Mae ‘ar draul y cyhoedd’ yn golygu ei bod yn cael ei chynnal a'i chadw gan yr awdurdod priffyrdd. Yn Sir Ddinbych, y Cyngor Sir yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer yr holl ffyrdd sy’n cael eu mabwysiadu, ac eithrio’r rhwydwaith cefnffyrdd. Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd. Yr unig gefnffyrdd yn Sir Ddinbych yw’r A55, yr A5 a’r A494.

Nid yw ffyrdd preifat yn cael eu mabwysiadu, ac o ganlyniad nid ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw gan yr awdurdod priffyrdd. Nid oes gan yr awdurdod priffyrdd unrhyw rwymedigaethau i gynnal atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw neu lanhau strydoedd, i ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu.

Gweler statws mabwysiadu unrhyw ffordd ar ein map arlein

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ffyrdd wedi’u mabwysiadu cysylltwch â ni.

Ymwadiad

Mae defnydd data Arolwg Ordnans yn ddarostyngedig i delerau ac amodau. Mae gennych hawl i drwydded heb freindal sy'n adalwadwy, yn unig, i weld y data trwyddedig er pwrpasau nad ydynt yn fasnachol dros y cyfnod pan mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei ddarparu.

Nid oes hawl gennych i gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu, gwerthu neu gynnig y Data Trwyddedig mewn unrhyw ffordd i Drydydd Parti.

Mae hawliau trydydd parti sy’n mynnu telerau’r drwydded hon yn cael eu cadw gan yr Arolwg Ordnans.

Dogfennau cysylltiedig