Am hawliau tramwy cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus ar agor i bawb bob amser, ac yn rhoi'r hawl i chi gerdded ar draws llwybrau penodol megis ffyrdd, llwybrau neu draciau, a allai fynd drwy drefi, cefn gwlad anghysbell neu eiddo preifat. Mae rhai hawliau tramwy ar agor i farchogwyr, beicwyr a modurwyr.

Rhoi gwybod am broblem gyda defnyddio hawl tramwy

Os oes gennych broblem gyda defnyddio hawl tramwy, megis rhwystr, wedi’i gynnal yn wael neu arwydd camarweiniol, cysylltwch â ni.

Gwneud cais am hawl tramwy cyhoeddus

Os ydych chi wedi cael eich stopio rhag defnyddio llwybr yr ydych yn credu bod gennych hawl i’w ddefnyddio, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drafod unrhyw gais posibl.

Ymholiad am hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybr

Os ydych am wneud cais, byddwn yn anfon y gwaith papur angenrheidiol atoch, a bydd angen i chi ei lenwi a'i ddychwelyd i ni, ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth i gefnogi eich cais. Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn ei gofnodi ar y gofrestr, sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. Byddwn yn ymchwilio i'ch cais, ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cadarnhau'r gorchymyn ar gyfer y cais.

Map a datganiad swyddogol

Mae hwn yn gofnod cyfreithiol o holl hawliau tramwy cyhoeddus, ac yn dangos ffordd bob llwybr cyhoeddus a llwybr ceffyl yn y sir. Gallwch weld y map gwreiddiol a chopïau gwaith trwy drefnu apwyntiad yng Nghaledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych. Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.

Mae'n rhaid i ni gadw cofrestr o'r holl geisiadau i addasu'r map diffiniol.

Cofrestr hawliau tramwy cyhoeddus

Dogfennau cysylltiedig

Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad 2018-2028 - Amlinelliad ac Amserlen