Rhybudd o Orchymyn Traffig Dros Dro

  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Llwybr Troed 42 a 45 Cymuned Prestatyn
  • Rhybudd o Orchymyn Gwahardd Cerddwyr Dros Dro
  • Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14(1)

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud Gorchymyn sy’n gwahardd cerddwyr rhag defnyddio’r hawliau tramwy a nodwyd yn yr Atodlen isod.

Bydd arwyddion i ddangos yr adrannau caeedig a'r llwybr amgen, a byddant yn cael eu dangos ar y cynllun sy'n cyd-fynd â'r rhybudd hwn ar y safle:

Cynllun: Gorchymyn Gwahardd Cerddwyr Dros Dro, Llwybrau Troed 42 a 45 (Prestatyn) Sandy Lane a Beverley Drive (PDF, 5MB)

Y rheswm dros gau’r ffordd yw hwyluso newidiadau i’r amserlen rheilffordd ynghyd â gwaith adeiladu ar bont y rheilffordd ar gyfer Network Rail (gwefan allanol).

Mae’r Gorchymyn yn dod i rym ar 1 Mawrth 2026 am gyfnod o chwe mis, er disgwylir y bydd y gwaith yn cymryd hirach, a bydd angen estyniadau i’r Gorchymyn.

Atodlen Hawliau Tramwy ar gau yng Nghymuned Prestatyn Sir Ddinbych
Hawliau Tramwy Adran

Llwybr Cyhoeddus 42

O Beverley Drive dros groesfan y rheilffordd i’w chyffordd gyda’r ardal sy’n cael ei alw’n ‘y Morfa’ yn lleol, Cyfeirnod Grid SJ 05490 82779 i SJ 05480 82710 (Tua 80m).

Llwybr Cyhoeddus 45

O Sandy Lane dros groesfan y rheilffordd i’w chyffordd gyda’r ardal sy’n cael ei alw’n ‘y Morfa’ yn lleol, Cyfeirnod Grid SJ 06005 83032 i SJ SJ 05797 82745 (Tua 385m).

Dyddiedig 25 Chwefror 2026.

Catrin Roberts, Pennaeth Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl.

Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych

Rhybudd o Orchymyn Traffig Dros Dro - Prestatyn - Sandy Lane a Beverley Drive (PDF, 184KB)