Torri glaswellt

Rydym yn torri’r glaswellt ar hyd ochr y ffyrdd i’w gadw’n daclus. Mae hyn hefyd yn helpu i gadw gyrwyr yn ddiogel trwy gynnal gwelededd.

Rhoi gwybod am broblem â gwrych, coeden neu laswellt

Pryd ydym ni'n torri'r gwellt?

Mewn ardaloedd gwledig, rydym yn torri'r glaswellt mewn dau toriad cyffredinol, dwywaith y flwyddyn . Rydym yn torri'r glaswellt ger cyffyrdd, cylchfannau a throadau yn amlach, fel na chyfaddawdir gwelededd.

Mewn ardaloedd trefol (h.y. o fewn ardaloedd 30mya) rydym yn torri'r glaswellt yn llawer amlach. Byddwn yn clirio’r glaswellt oddi ar lwybrau a phalmentydd, ond nid ydym yn casglu'r toriadau o'r ardaloedd glaswelltog.

Rydym yn chwistrellu chwyn mewn ardaloedd 30mya hyd at 3 gwaith y flwyddyn.

Polisi torri gwair / ymylon ffyrdd gwledig (PDF, 109KB)

Torri glaswellt o amgylch coed

Rydym yn cymryd camau i wella iechyd coed ar dir y cyngor. Fel rhan o’n hymrwymiad i fioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac ecolegol, mae arnom eisiau defnyddio dull ysgafnach o dorri glaswellt yn ein parciau ac ardaloedd cymunedol. 

Mae gwreiddiau’r coed sydd wedi eu hen sefydlu yn ein parciau a’n strydoedd yn y troedfeddi uchaf o bridd dan eu canghennau. Pan fydd peiriannau trwm (fel peiriant torri glaswellt) yn cael ei ddefnyddio ar y pridd hwn, neu pan fydd llawer o bobl yn cerdded arno, mae’r pridd yn cael ei gywasgu, sy’n ei gwneud yn anoddach i’r goeden amsugno’r ocsigen, dŵr a maetholion y mae arni eu hangen i dyfu.

I osgoi difrod i’r gwreiddiau o’r pridd cywasgedig hwn, ein bwriad yw torri’r glaswellt o amgylch y coed dim ond unwaith neu ddwy y flwyddyn yn defnyddio offer ysgafn. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i beidio â cherdded dros y gwreiddiau a rhoi amser i’r pridd ddod ato’i hun ac i’r goeden ffynnu.  Bydd y glaswellt nad yw’n cael ei dorri yn tyfu yn ddolydd gwenyn, yn denu’r pryfed a mamaliaid bychan sydd mor bwysig i fioamrywiaeth. Rydym yn gofalu am goed sydd newydd eu plannu mewn ffordd wahanol, gan ddefnyddio tomwellt o amgylch y boncyff rhag i ddŵr gael ei golli ac i gadw rheolaeth ar y glaswellt a’r chwyn.

Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth yn ein hymdrechion i amddiffyn a chadw’r planhigion a bywyd gwyllt yn ein hardaloedd gwyrdd a diolch i chi am eich help i ofalu am y coed sydd mor werthfawr i’n cymunedau.  Os hoffech siarad ag aelod o’n tîm am hyn, e-bostiwch ni yn coed@sirddinbych.gov.uk.

Gwarchod bioamrywiaeth

Mae glaswellt ac ymyl y ffordd yn safleoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys pryfed sy'n peillio, adar, mamaliaid a rhai planhigion prin. Rydym yn trin rhai ardaloedd gwledig yn wahanol er budd bioamrywiaeth, gall hyn gynnwys gadael i rai rhannau dyfu yn fwy nag eraill. Cewch wybod mwy drwy ddarllen y polisi yma. Rydym hefyd wedi dynodi gwarchodfeydd natur ar ochr y ffordd i ddiogelu'r ymylon o bwys arbennig. I gael gwybod am ein prosiect ymylon ffyrdd (gwefan allanol).