Caniatâd adeilad rhestredig

Strwythur sydd wedi ei roi ar restr statudol o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol ydi adeilad rhestredig. Mi all strwythur sydd wedi'i cysylltu neu sydd yn gorwedd o fewn cwrtil adeilad rhestredig hefyd cael ei chynnwys fel rhan o'r adeilad rhestredig.

Sut mae ffeindio a ydi adeilad yn un rhestredig?

Mi allwch chi gweld y adeiladau rhestredig cyfredol ar ein fap weithredol neu mi allwch chi gysylltu â ni i weld os yw adeilad wedi ei rhestredig.

Gweld Map Adeiladau Rhestredig Sir Ddinbych

Altradau i adeiladau rhestredig

Bydd angen cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw altrad, estyniad neu ddymchweliad rhan o adeilad rhestredig, yn ogystal â’r caniatâd cynllunio neu’r gymeradwyaeth rheoliad adeiladu sy’n angenrheidiol. Mae’n drosedd perfformio gwaith ar adeilad rhestredig heb gydsyniad adeilad rhestredig. 

Sut mae ymgeisio am gydsyniad adeilad rhestredig?

Gallwch ymgeisio ar-lein drwy Borthol Cynllunio, neu gallwch lawrlwytho cais. Gall y broses o gydsyniad adeilad rhestredig fod yn gymhleth, felly fe’ch argymhellwn i geisio cyngor arbenigol gan ymgynghorydd proffesiynol sydd â phrofiad o ddelio ag adeiladau hanesyddol.

Ymgeisio ar-lein drwy borthol cynllunio (gwefan allanol)

Gwasanaeth Cymorth adeilad rhestredig

Mi allwn ni darparu cymorth cyn-ymgeisio i ran fwyaf o ddatblygiadau ar Adeiladau Rhestredig neu ddatblygiadau o fewn Ardaloedd Cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mwy am Gwasanaeth cyngor ar Adeiladau Rhestredig, ardaloedd cadwraeth