Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Trosolwg

Mae’r system gynllunio yng Nghymru’n dibynnu ar gynlluniau. Mae polisi cenedlaethol yn nodi gofynion i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau). Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLlau gael eu monitro bob blwyddyn a’u hadolygu bob pedair blynedd.

Mae Sir Ddinbych yn paratoi CDLl newydd. Roedd Adroddiad Adolygu y CDLl cyfredol yn argymell paratoi CDLl arall. Mae amserlen i gwblhau’r CDLl newydd wedi’i chytuno gyda Llywodraeth Cymru ac mae hon wedi’i chynnwys yn y Cytundeb Cyflawni.

Camau paratoi’r Cynllun sydd wedi’u cwblhau hyd yma

Adroddiad Adolygu CDLl 2006-2021

Cymeradwyodd Cyngor Sir Ddinbych Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod ar 5 Rhagfyr 2017. Mae’r Adroddiad Adolygu’n rhoi asesiad o berfformiad y CDLl cyfredol ac yn pwysleisio’r angen am gynllun newydd. 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Addroddiad ar adolygiad (PDF, 4.68MB)

Cytundeb Cyflawni

Cytunodd Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb Cyflawni, a fydd yn arwain y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd, ar 22 Mai 2018. 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Cytundeb cyflawni (PDF, 816KB)

Cytunwyd ar Gytundeb Cyflawni diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr 2022.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych 2018 i 2033: Cytundeb Cyflawni Diwygiedig Rhagfyr 2022 (PDF, 2MB)

Cofrestr Safleoedd Posib’

Gwahoddwyd cynigion am safleoedd gan berchnogion tir, datblygwyr a’r cyhoedd rhwng 6 Awst a 26 Tachwedd 2018. Mae 202 o safleoedd wedi’u cyflwyno ac maent ar gael i’w hystyried yn rhan o’r broses ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir.

Mae’r Gofrestr o Safleoedd Posib’ yn cynnwys mapiau safleoedd unigol i’r 202 o safleoedd a gyflwynwyd. Mae’r mapiau unigol wedi’u grwpio i’r anheddiad agosaf a gallwch eu gweld trwy glicio ar Safleoedd Posib’.

Y Strategaeth a Ffefrir (Cyn i’r cyhoedd ei harchwilio)

Mae’r strategaeth lefel uchel a’r polisïau allweddol yn y Strategaeth a Ffefrir. Mae’n nodi’r lefel o dwf a ffefrir o ran tai a chyflogaeth a sut y bydd y twf hwnnw’n cael ei wasgaru ar draws Sir Ddinbych. Mae polisïau allweddol wedi’u dylunio i arwain datblygiadau a sicrhau bod anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir yn cael eu diwallu.  

Mae'r Strategaeth a Ffefrir ar ffurf drafft ar hyn o bryd. Cafodd ei pharatoi ar ôl ymgynghori â’r aelodau a budd-ddeiliaid allweddol. Roedd ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 8 Gorffennaf 2019 a 30 Awst 2019. Mae'r sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu hadrodd i'r Cyngor cyn cwblhau'r strategaeth a ffefrir. Mae'r dogfennau cyn-adneuo a thystiolaeth gefndirol ar gael i'w gweld trwy glicio ar Y Strategaeth a Ffefrir / Dogfen cyn i’r cyhoedd ei harchwilio.