Cynllun Dirprwyo Cynllunio

Mae’r Cynllun Dirprwyo hwn wedi ei osod mewn dwy ran:

  • Mae Rhan 1 yn ymwneud ag awdurdodi Swyddogion i benderfynu ar ystod o faterion yn ymwneud â chynllunio (Pwerau Dirprwyedig). Mae’r pwerau hyn yn galluogi Swyddogion i ymdrin ag ystod o geisiadau cynllunio, hysbysiadau, ymgynghoriadau, ymholiadau a materion cydymffurfedd heb benderfyniad ffurfiol gan y Pwyllgor Cynllunio. 
  • Mae Rhan 2 yn ymwneud ag ystod o faterion yn ymwneud â chynllunio y dylid eu cyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio i gael penderfyniad ffurfiol. 

Mae cael Cynllun Dirprwyo o’r fath yn galluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gael cydbwysedd priodol rhwng creu penderfyniadau amserol ar y mwyafrif o faterion cynllunio tra’n cynnal y gwiriadau democrataidd angenrheidiol y mae’r Pwyllgor Cynllunio yn eu darparu. 

Rhan 1: Penderfyniadau Lefel Swyddog

Yn amodol ar ddarpariaethau Rhan 2 y Cynllun Dirprwyo, mae Rhan 1 yn awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth, Rheolwr Datblygu ac unrhyw Swyddog a awdurdodwyd felly ganddynt i benderfynu ar yr ystod o geisiadau, hysbysiadau, ymgynghoriadau, ymholiadau cyn ymgeisio, ymholiadau cyffredinol a chamau cydymffurfedd a restrir yng Ngholofnau 1 a 2 o Atodiad A.

Mewn perthynas â’r canlynol, mae’r cynllun yn awdurdodi’r Swyddogion uchod i:

  • Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio neu Geisiadau eraill:
    • Yr holl fathau o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A y mae Swyddogion yn argymell eu cymeradwyo, a lle mae 3 neu lai na hynny o wrthwynebiadau ysgrifenedig unigol wedi eu derbyn gan wahanol eiddo yn codi gwrthwynebiadau sy’n berthnasol i’r cais hwnnw.
    • Pob math o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A y mae Swyddogion yn argymell eu gwrthod.
    • Pob math o geisiadau, hysbysiadau, ymgynghoriadau, ymholiadau cyn ymgeisio, ymholiadau cyffredinol a materion cydymffurfedd a restrir yng Ngholofn 2 Atodiad A.
  • Penderfynu ar Ymholiadau Cyn Ymgeisio ac Ymholiadau Cyffredinol  
    • Pob math o ymholiadau cyn ymgeisio ac ymholiadau cyffredinol lle mae angen ymateb ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
  • Ymdrin â Materion Cydymffurfio:
    • Achosion y mae Swyddog Cydymffurfedd Cynllunio wedi ymchwilio iddynt ac nad ydynt angen camau pellach.
    • Achosion lle mae angen gwasanaethu hysbysiad ffurfiol fel y rhestrir yng Ngholofn 2 Atodiad A.
    • Camau cyfreithiol mewn cysylltiad â thorri Hysbysiadau a roddwyd o dan y darpariaethau a gaiff eu cynnwys ym mharagraff uchod ac unrhyw gamau cyfreithiol nad ydynt yn gysylltiedig â hysbysiadau o’r fath sy’n briodol. I ddibenion hyn neu unrhyw gam cyfreithiol priodol arall fe fydd yn cynnwys gwaharddebau.
  • Ymdrin â Materion Amrywiol:
    • Penderfynu ar y math o broses apêl cynllunio i’w mabwysiadu yn amodol ar ymgynghori gyda’r Aelod(au) Ward Lleol, ac amddiffyn safle’r Cyngor yn unol â’r Protocol ar gyfer Ymwneud Aelod mewn Apeliadau Cynllunio.
    • Mân ddiwygiadau i delerau cytundeb cyfreithiol Adran 106 lle nad yw sylwedd y telerau a awdurdodwyd wedi eu haddasu’n sylweddol, yn amodol ar ymgynghoriad anffurfiol gyda’r Aelod(au) Ward Lleol.
    • Mân ddiwygiadau i eiriad yr amodau cynllunio / rhesymau dros wrthod / nodiadau i’r ymgeiswyr ar geisiadau a benderfynwyd yn y Pwyllgor Cynllunio, gan gynnwys mân ddiwygiadau i rybuddion gorfodi a awdurdodwyd gan y Pwyllgor lle na chaiff sylwedd yr amod a awgrymwyd / rheswm dros wrthod / nodyn i’r ymgeisydd / rhybudd ei newid yn sylweddol, yn amodol ar ymgynghoriad anffurfiol gyda’r Aelod(au) Ward Lleol.
    • Gwneud a chyflwyno Hysbysiadau Gorchymyn Diogelu Coed. Ymdrin â cheisiadau ar gyfer gwaith i Goed mewn Ardaloedd Cadwraeth.
    • Ymateb i holl geisiadau sgrinio a chwmpasu yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.
  • Ymdrin â materion yn ymwneud â Prosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
    • Cyflwyno sylwadau ar ran y Cyngor:
      • Ymateb i’r Corff Gwneud Penderfyniadau perthnasol ar ymgynghoriadau barn sgrinio a chwmpasu asesiad o effaith amgylcheddol.
      • Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr ar y Datganiad o Ymgynghoriad â’r Gymuned.
      • Ymateb i ymgynghoriad y Corff Gwneud Penderfyniadau ar ddigonolrwydd ymgynghoriad y datblygwr.
    • Cytuno i fynd i Gytundebau Perfformiad Cynllunio gyda datblygwyr.
    • Cytuno ar Ddatganiadau Tir Cyffredin.
    • Cynrychioli’r Cyngor mewn Sesiynau Gwrandawiad Archwilio a gwneud sylwadau llafar / ysgrifenedig yn ystod yr Archwiliad.
    • Cymeradwyo manylion a gyflwynwyd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn unol â’r Gofynion a gaiff eu cynnwys yng Ngorchmynion Caniatâd Datblygu Prosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol.
Rhan 2: Penderfyniadau Lefel Pwyllgor

Mae’r cynllun yn gofyn am atgyfeirio’r canlynol i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer penderfyniad ffurfiol. Mae hyn yn golygu na fyddai’r canlynol yn dod o fewn Rhan 1 y cynllun hwn:

  • Ceisiadau cynllunio neu geisiadau eraill
    • Yr holl fathau o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A y mae Swyddogion yn argymell eu cymeradwyo, a lle mae 4 neu fwy na hynny o wrthwynebiadau ysgrifenedig unigol wedi eu derbyn gan wahanol eiddo yn codi gwrthwynebiadau cynllunio sy’n berthnasol i’r cais hwnnw.
    • Yr holl fathau o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A y mae Swyddogion yn argymell eu cymeradwyo lle mae gwrthwynebiad cynllunio sylweddol perthnasol pendant (yn golygu y dylai unrhyw ymateb nodi’n glir un ai 'Dim Gwrthwynebiadau', 'Dim Sylwadau', 'Cefnogi' neu 'Wrthwynebu' (gan ddarparu rhesymau perthnasol dros y gwrthwynebiad) wedi ei dderbyn gan Gyngor Dinas/Tref/Cymuned neu gorff y mae’n ofynnol ymgynghori ag ef o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol).
    • Unrhyw gais i ddiddymu neu amrywio amod cynllunio sydd wedi ei osod yn benodol gan Aelodau yn y Pwyllgor Cynllunio.
  • Gwyriad
    • Yr holl fathau o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A y mae Swyddogion yn argymell argymhelliad sy’n cynrychioli gwyriad sylweddol o’r polisïau a fabwysiadwyd a chanllawiau’r Cynllun Datblygu. Caiff 'Gwyriad Sylweddol' ei ddiffinio fel unrhyw gynnig a fyddai, pe byddai’n cael ei gymeradwyo neu ei wrthod, yn niweidio bwriadau sylfaenol y Polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd.
  • Aelodau’n Galw i Mewn
    • Unrhyw gais nad yw eisoes wedi ei benderfynu o dan Ran 1 uchod y mae Aelod y Ward, ar ran y Ward y mae safle’r cais wedi ei leoli ynddo, wedi cyflwyno cais ysgrifenedig, wedi ei seilio ar sail cynllunio ddilys, fod y cais yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio. Fe all Aelod(au) y Ward gyfagos ofyn am atgyfeirio at Bwyllgor lle y gellir cyfiawnhau y byddai yna effaith cynllunio sylweddol ar yr ardal honno. Mae’n rhaid i atgyfeiriad i Bwyllgor gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad a/neu’r Rheolwr Datblygu.
  • Swyddog yn Galw i Mewn
    • Unrhyw gais arall, hysbysiad, ymgynghoriad, ymholiad a mater gorfodi a restrir yng Ngholofn 1 a 2 Atodiad A y mae Pennaeth y Gwasanaeth neu’r Rheolwr Datblygu yn ei ystyried yn angenrheidiol i adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio o ganlyniad i gysylltiad neu amgylchiadau.
  • Ymgeisydd
    • Pob math o geisiadau a restrir yng Ngholofn 1 Atodiad A a gyflwynwyd gan, ar ran, neu ar dir sy’n eiddo i:
      • Gynghorydd Sir
      • Aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth
      • Aelod o staff o’r adran Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
      • Perthynas agos i unrhyw rai o’r uchod fel priod/partneriaid, rhieni, plant, brodyr a chwiorydd.
  • Addasiadau Cyfreithiol 
    • Unrhyw gais i amrywio neu addasu unrhyw delerau sylfaenol cytundeb cyfreithiol Adran 106 sy’n cael ei gysylltu â chaniatâd cynllunio a roddwyd mewn Pwyllgor Cynllunio.
  • Prosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
    • Unrhyw ymateb ffurfiol i ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol y datblygwr.
    • Unrhyw ymateb ffurfiol i’r Corff Gwneud Penderfyniadau perthnasol ar ymgynghoriadau ceisiadau Prosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gan gynnwys yr Adroddiad o Effaith lleol.
  • Atgyfeirio yn Ôl i’r Pwyllgor
    • Unrhyw gais sydd wedi ei benderfynu yn groes i argymhelliad Swyddog yn y Pwyllgor Cynllunio ond a allai, ym marn y Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, gynnwys un o’r canlynol:
      • Gwyriad sylweddol o’r Cynllun Datblygu a fabwysiadwyd. 'Gwyriad Sylweddol ei ddiffinio fel unrhyw gynnig a fyddai, pe byddai’n cael ei gymeradwyo neu ei wrthod, yn niweidio bwriadau sylfaenol y Polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd.
      • Risg sylweddol o gostau yn cael eu dyfarnu yn erbyn y Cyngor mewn unrhyw apêl cynllunio ddilynol, her gyfreithiol, y posibilrwydd bydd Llywodraeth Cymru yn galw’r penderfyniad i mewn neu ymchwiliad gan yr Ombwdsmon.
    • Fe fydd yr adroddiad a fydd yn cael ei ddychwelyd, o dan bob amgylchiadau, yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn diogelu buddiannau’r Cyngor a bydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddau faes a) a/neu b) uchod.

Atodiad A

Mathau o geisiadau
  • Cod Cais AC: Cymeradwyo amodau cynllunio
  • Cod Cais AD: Ceisiadau Hysbyseb
  • Cod Cais CA: Caniatâd Ardal Gadwraeth
  • Cod Cais LB: Caniatâd Adeilad Rhestredig
  • Cod Cais MA: Cais mwynau
  • Cod Cais OB: Addasiad / Rhyddhau rhag Rhwymedigaeth (Adran 106)
  • Cod Cais PC: Ceisiadau Ôl-weithredol
  • Cod Cais PF: Caniatâd Cynllunio Llawn
  • Cod Cais PO: Caniatâd Cynllunio Amlinellol
  • Cod Cais PR: Materion a Gadwyd yn Ôl
  • Cod Cais PS: Adran 73 Amrywiad/Diddymu amod cynllunio
  • Cod Cais TP: Gwaith ar goed gyda Gorchmynion Diogelu Coed
  • Cod Cais WA: Gwastraff
Hysbysiadau / Ymgynghoriadau / Camau Gorfodi
  • Cod Cais AA: Hysbysiad Ymlaen Llaw Amaethyddol (Ffyrdd, tanciau, arall)
  • Cod Cais AG: Hysbysiad Ymlaen Llaw Amaethyddol (Adeiladau)
  • Cod Cais CT: Tystysgrif Datblygiad Arall Priodol
  • Cod Cais DA: Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw i Ddymchwel
  • Cod Cais DM: Hysbysiad Dymchwel – Anheddau
  • Cod Cais EL: Llinell Drydan
  • Cod Cais FA: Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw Coedwigaeth
  • Cod Cais FE: Hysbysiad Coedwigaeth
  • Cod Cais GD: Adran o’r Llywodraeth
  • Cod Cais HE: Hysbysiad i gael gwared ar wrych
  • Cod Cais HR: Hysbysiad Cadw Gwrych
  • Cod Cais HS: Caniatâd Sylweddau Peryglus
  • Cod Cais LE: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer Defnydd Presennol/Datblygiad
  • Cod Cais LP: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer Defnydd Presennol/Datblygiad Arfaethedig
  • Cod Cais NA: Ymgynghoriad Awdurdod Cyfagos
  • Cod Cais NMA: Diwygiad Ansylweddol
  • Cod Cais TA: Cymeradwyaeth Cyn Caniatâd
  • Cod Cais TB: Hysbysiad Telathrebu
  • Cod Cais TC: Gwaith ar goed mewn Ardaloedd Cadwraeth
  • Cod Cais ENQ: Pob ymholiad cyn ymgeisio a chyffredinol
  • Cod Cais ENF: Hysbysiadau Terfynu Hysbyseb,
    Hysbysiadau Torri Amod,
    Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol,
    Hysbysiadau Cwblhau,
    Rhybuddion Gorfodi Ardal Gadwraeth,
    Rhybuddion Gorfodi,
    Hysbysiadau Rhybudd Gorfodi,
    Hysbysiadau Torri Rheoliadau Sylweddau Peryglus,
    Hysbysiadau Gosod Gwrych Newydd ,
    Hysbysiadau Adfer Gwrych Uchel,
    Rhybuddion Gorfodi Adeilad Rhestredig,
    Cynnal Hysbysiadau Tir,
    Rhybuddion Torri Rheolau Cynllunio,
    Hysbysiadau Atgyweirio,
    cais am wybodaeth,
    Hysbysiadau Atal,
    Hysbysiadau Atal Dros Dro,
    Hysbysiadau Plannu Coed Newydd,
    Hysbysiadau Gwaith Brys.

Sylwadau Dilys

Dim ond os byddant yn cynnwys cyfeiriad postio llawn a dilys y bydd sylwadau yn cael eu cymryd i ystyriaeth i ddibenion diffinio p’run ai yw cais yn gorwedd o fewn Rhan 1 neu Ran 2 y Cynllun Dirprwyo. I ddibenion y Cynllun mae * eiddo 'gwahanol' yn golygu y dylai bod ganddynt bwynt cyfeiriad postio gwahanol. 

Ni fydd llythyrau a negeseuon e-bost heb enw a chyfeiriad postio llawn yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

Ni fydd sylwadau yr ystyrir eu bod yn cynnwys sylwadau enllibus, sy’n gwahaniaethu, sy’n ddifenwol neu fel arall yn tramgwyddo yn cael eu hystyried.

Fe fydd deisebau yn cynnwys enwau a llofnodion yn ogystal â chyfeiriadau cysylltiedig yn cael eu diffinio i ddiben p’run ai yw cais yn gorwedd o fewn Rhan 1 neu Ran 2 y Cynllun Dirprwyo fel un sylw unigol.

Mwy wybodaeth

Ar gyfer 'Cyrff y mae’n ofynnol ymgynghori â nhw o dan y Gorchymyn Gweithdrefn' cyfeiriwch at y Gorchymyn Gweithdrefn diweddaraf.

I ddibenion y cynllun hwn fe fydd yr holl geisiadau cynllunio yn cynnwys y rhai hynny a wnaed gan neu ar ran y Cyngor.