Datblygiadau Seilwaith Mawr

Mae datblygiadau seilwaith mawr, neu Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd, yn ddatblygiadau fel gweithfeydd pŵer, prosiectau ynni adnewyddadwy mawr, prosiectau ffyrdd mawr, meysydd awyr newydd neu estyniadau i feysydd awyr.

Mae angen derbyn caniatâd datblygu ar gyfer datblygiadau seilwaith mawr. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio ac yn cael eu penderfynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'r canlynol yn ddatblygiadau seilwaith mawr sy'n effeithio ar Sir Ddinbych:

Estyniad fferm wynt alltraeth Burbo Bank

Mwy o wybodaeth am y datblygiad hwn (gwefan allanol)

Fferm wynt Coed Clocaenog

Mwy o wybodaeth am y datblygiad hwn (gwefan allanol)

Prosiect Cyswllt Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru

Mwy o wybodaeth am y datblygiad hwn (gwefan allanol)