Polisi cynllunio cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru
Yn ddiweddar, gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 i fynd i’r afael â’r argyfwng natur trwy gyhoeddi Pennod 6 wedi’i diwygio, Creu Lleoedd Hynod a Naturiol a Lles.
Daeth y newidiadau polisi i rym yn syth ac mae’n effeithio ar bob cais cynllunio.
Mae llawer iawn i’w ystyried ym Mhennod 6 sydd wedi’i diwygio, fodd bynnag mae’r prif newidiadau polisi yn ymwneud ag:
- Isadeiledd Gwyrdd
- Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth a’r Dull Fesul Cam
- Amddiffyniad ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Coed a Choetiroedd
Gweld y Bennod 6 newydd ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol)
Un newid allweddol yw’r gofyniad i bob cais cynllunio gael ei gyflwyno gyda ‘Datganiad Isadeiledd Gwyrdd’ (para 6.2.5). Mae angen ‘Datganiad Isadeiledd Gwyrdd’ gyda phob cais newydd bellach a dylai ddisgrifio sut mae isadeiledd gwyrdd wedi’i gynnwys yn y cynnig.
Dylai’r datganiad fod yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig, er enghraifft ar gyfer datblygiadau deiliad tŷ a mân ddatblygiadau, byddai hwn yn ddisgrifiad byr fel arfer.
Bydd y datganiad Isadeiledd Gwyrdd yn ffordd effeithiol o ddangos canlyniadau amlswyddogaethol cadarnhaol sy’n briodol i’r safle dan sylw ac mae’n rhaid ei ddefnyddio i ddangos sut mae’r ‘Dull Fesul Cam’ (Paragraff 6.4.21) wedi’i ddefnyddio.