Ffioedd cynllunio, eithriadau a gostyngiadau
Gwybodaeth am y ffioedd cynllunio, eithriadau a gostyngiadau.
Mae’r ddogfen hon yn seiliedig ar:
- Y ddeddfwriaeth ddiwygio ‘Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2025’
- ‘Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015’ (fel y’u diwygiwyd) gan gynnwys yr holl ddiwygiadau cyfredol
- Dogfennau ffioedd Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf ar 20 Hydref 2025)
Dylid talu’r ffi adeg cyflwyno’r Cais. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â pha ffi i’w thalu, cysylltwch â ni.
Codir y ffioedd hyn am geisiadau a wneir o 1 Rhagfyr 2025 ymlaen.
Ceisiadau gan berchnogion tai (ac eithrio fflatiau)
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Ehangu, gwella neu addasu tŷ annedd sengl presennol (ac eithrio fflatiau) |
£585 |
| Gwneud gwaith (gan gynnwys codi adeilad) o fewn ffiniau tŷ annedd presennol at ddibenion sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd hwnnw; a/neu godi neu adeiladu gatiau, ffensys, waliau neu amgáu’r ffiniau drwy ddull arall (ac eithrio fflatiau) |
£283 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Codi tai annedd
| Arwynebedd y safle | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 1.2 o hectarau |
£667 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Mwy na 1.2 o hectarau |
£8,004 + £154 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 1.2 hectar, hyd at uchafswm o £203,380 |
Codi adeiladau (ac eithrio tai annedd)
| Arwynebedd y safle | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 2.5 o hectarau |
£667 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Mwy na 2.5 o hectarau |
£16,675 + £154 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 2.5 hectar hyd at uchafswm o £203,380 |
Datblygiad defnydd cymysg (mewn mwy nag un o gategorïau datblygu)
| Arwynebedd y safle | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 2.5 o hectarau |
£667 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Mwy na 2.5 o hectarau |
£16,675 + £154 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 2.5 hectar hyd at uchafswm o £203,380 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Materion a gadwyd yn ôl yn sgil rhoi caniatâd cynllunio amlinellol
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn sgil rhoi caniatâd amlinellol |
Yr un swm â’r ffi sy’n daladwy am gais llawn, neu; or os talwyd y ffi am Gais Llawn eisoes, £592 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Ehangu, gwella neu addasu tai annedd presennol
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Nifer y tai annedd: un tŷ annedd (neu un fflat) |
£585 |
| Nifer y tai annedd: dau o dai annedd neu fwy (neu ddau o fflatiau neu fwy) |
£820 |
| Gwneud gwaith (gan gynnwys codi adeilad) o fewn ffiniau tŷ annedd presennol at ddibenion sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd hwnnw; a/neu godi neu adeiladu gatiau, ffensys neu waliau ar y ffiniau neu’u hamgáu drwy ddull arall. |
£283 |
Codi tai annedd
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Nifer y tai annedd: Dim mwy na 25 o dai annedd |
£667 am bob tŷ annedd |
| Nifer y tai annedd: Mwy na 25 o dai annedd |
£16,675 + £154 am bob tŷ annedd ychwanegol y tu hwnt i 25 hyd at uchafswm o £406,761 |
Codi adeiladau (ac eithrio tai annedd, adeiladau amaethyddol, tai gwydr, peiriannau a pheirianwaith)
| Arwynebedd gros y llawr y bydd y datblygiad yn ei greu | Ffi sy'n daladwy |
| Dim cynnydd yn arwynebedd gros y llawr, neu ddim mwy na 40 metr sgwâr |
£383 |
| Mwy na 40 metr sgwâr ond nid yn fwy na 75 metr sgwâr |
£667 |
| Mwy na 75 metr sgwâr |
£16,675 am bob 75 metr sgwâr (neu ran o hynny) hyd at uchafswm o £406,761 |
Codi adeiladau (ac eithrio tai gwydr) at ddibenion amaethyddol ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth)
| Arwynebedd gros y llawr y bydd y datblygiad yn ei greu | Ffi sy'n daladwy |
| Dim cynnydd, neu ddim mwy na 465 metr sgwâr |
£205 |
| Mwy na 465 metr sgwâr ond nid yn fwy na 540 metr sgwâr |
£667 |
| Mwy na 540 metr sgwâr |
£585 + £585 am bob 75 metr sgwâr yn ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 540 metr sgwâr hyd at uchafswm o £406,761 |
Codi tai gwydr (ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth)
| Arwynebedd gros y llawr y bydd y datblygiad yn ei greu | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 465 metr sgwâr |
£205 |
| Mwy na 465 metr sgwâr |
£3,313 |
Codi / addasu / amnewid peiriannau a pheirianwaith
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Arwynebedd y safle: dim mwy na 5 o hectarau |
£667 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Arwynebedd y safle: Mwy na 5 o hectarau |
£33,350 + additional £197 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 5 o hectarau hyd at uchafswm o £406,761 |
| Meysydd parcio, ffyrdd gwasanaeth a mynedfeydd eraill (ar gyfer dibenion presennol) |
£383 |
Gweithrediadau sy’n gysylltiedig â drilio wrth chwilio am olew neu nwy naturiol
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Arwynebedd y safle: dim mwy na o 7.5 hectarau |
£667 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Arwynebedd y safle: mwy na 7.5 o hectarau |
£33,350 + additional £197 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 7.5 hectar hyd at uchafswm o £406,761 |
Gweithrediadau ar gyfer caffael a gweithio mwynau (os nad ydynt yn perthyn i’r un o’r categorïau uchod)
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Arwynebedd y safle: Dim mwy na o 15 hectarau |
£374 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Arwynebedd y safle: mwy na 15 o hectarau |
£56,100 + £189 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 15 hectar hyd at uchafswm o £108,470 |
Gweithrediadau mewn unrhyw achos arall (os nad ydynt yn perthyn i’r un o’r categorïau uchod)
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Arwynebedd y safle: unrhyw arwynebedd safle |
£296 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) hyd at uchafswm o £406,761 |
Newid dull defnyddio adeilad o un tŷ annedd i greu dau neu fwy o dai annedd sengl
| Nifer y tai annedd | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 25 o dai annedd |
£667 am bob tŷ annedd |
| Mwy na 25 o dai annedd |
£16,675 + £197 am bob tŷ annedd ychwanegol y tu hwnt i 25 hyd at uchafswm o £406,761 |
Newid dull defnyddio adeilad (nad oedd yn arfer bod yn dŷ annedd sengl) i’w ddefnyddio fel tŷ neu dai annedd ar wahân
| Nifer y tai annedd | Ffi sy'n daladwy |
| Dim mwy na 25 o dai annedd |
£585 am bob tŷ annedd |
| Mwy na 25 o dai annedd |
£14,625 + £197 am bob tŷ annedd ychwanegol y tu hwnt i 25 hyd at uchafswm o £406,761 |
Defnyddio tir ar gyfer: gwaredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff, gollwng deunydd sy’n weddill ar ôl echdynnu neu storio mwynau yn yr awyr agored
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Arwynebedd y safle: dim mwy na 15 o hectarau |
£374 am bob 0.1 hectar (neu ran o hynny) |
| Arwynebedd y safle: mwy na 15 o hectarau |
£56,100 + £197 am bob 0.1 hectar ychwanegol (neu ran o hynny) y tu hwnt i 15 o hectarau hyd at uchafswm o £108,470 |
| Newid dull defnyddio adeilad neu dir mewn ffordd arall (os nad yw hynny’n perthyn i’r un o’r categorïau uchod) |
£667 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Ceisiadau Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon Presennol ac Arfaethedig
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Existing use or operation |
Yr un swm â ffi Cais Llawn |
| Dull defnyddio neu weithredu presennol – ei gwneud yn gyfreithlon i beidio â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad |
£383 (ychwanegir hyn hefyd at unrhyw ffi arall sy’n daladwy) |
| Dull defnyddio neu weithredu arfaethedig |
Hanner swm y ffi Cais Llawn |
Cymeradwyaeth o flaen llaw (yn unol â’r hawliau a restrir ar gyfer Datblygiadau a Ganiateir)
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Adeiladau a gweithrediadau amaethyddol (Rhan 6; Dosbarthiadau A/B) |
£223 |
| Adeiladau a gweithrediadau coedwigaeth (Rhan 7; Dosbarth A) |
£223 |
| Dymchwel adeiladau (Rhan 31; Dosbarth A) |
£223 |
| Cyfathrebiadau (Gweithredwyr Cod Cyfathrebiadau Electronig) (Rhan 24; Dosbarth A) |
£667 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Diddymu neu amrywio amod yn sgil rhoi caniatâd cynllunio
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Ceisiadau a wneir cyn pen chwe mis ar ôl gwrthod neu beidio â phenderfynu ynghylch ‘cais i newid aelwyd’ am ddiwygiad ansylweddol (er mwyn addasu caniatâd cynllunio ar gyfer tŷ annedd presennol neu ddatblygiad yn ei gwrtil) ar gyfer yr un datblygiad a dim un arall |
£260 |
| Cais a wneir cyn pen chwe mis ar ôl gwrthod neu beidio â phenderfynu ynghylch y cais gwreiddiol am ddiwygiad ansylweddol mewn unrhyw achos arall ar gyfer yr un datblygiad a dim un arall |
£141 |
| Ceisiadau mewn unrhyw achos arall |
£383 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Rhyddhau amod(au) – Cymeradwyo manylion a/neu gadarnhau y bodlonwyd amod neu amodau ar ôl rhoi caniatâd cynllunio
| Datblygiad | Ffi sy'n daladwy |
| Ehangu, gwella neu addasu tai annedd presennol; a/neu wneud gwaith (gan gynnwys codi adeilad) o fewn ffiniau tŷ annedd presennol at ddibenion sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd hwnnw; a/neu godi neu adeiladu gatiau, ffensys neu waliau ar y ffiniau neu’u hamgáu drwy ddull arall |
£123 |
| Unrhyw ddatblygiad arall |
£242 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Diwygiad ansylweddol ar ôl rhoi caniatâd cynllunio
| Math o gais | Ffi sy'n daladwy |
| Ceisiadau newid aelwyd (i ddiwygio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu tŷ annedd presennol neu ddatblygiad yn ei gwrtil) |
£123 |
| Unrhyw achos arall |
£242 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Fees for different types of advertising
| Math o hysbyseb | Ffi sy'n daladwy |
| Ar gyfer busnes ar yr eiddo |
£248 |
| Blaen arwyddion nad ydynt wedi’u gosod ar y safle nac yn weledol o’r safle, yn cyfeirio’r cyhoedd at y busnes |
£197 |
| Hysbysebion eraill |
£667 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Diwygiadau ar ôl cyflwyno cais dilys ar gyfer datblygiad mawr
| Math o hysbyseb | Ffi sy'n daladwy |
| Cyflwyno diwygiad i gais dilys ar gyfer datblygiad mawr i’r awdurdod cynllunio lleol |
£283 |
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Os gwneir ceisiadau am ganiatâd cynllunio, i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl neu am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon ar gyfer tir sy’n gorwedd yn ardal dau o awdurdodau cynllunio lleol neu fwy, rhaid talu ffi i bob un o’r awdurdodau cynllunio lleol. Cyfrifir y ffi sy’n daladwy yn y modd arferol.
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Nid yw’r holl gonsesiynau’n ddilys ar gyfer yr holl fathau o geisiadau.
Ceir gostyngiadau i ffioedd cynllunio os:
- Os gwneir cais ar ran clwb chwaraeon nad yw’n gwneud elw ar gyfer gwaith ar feysydd chwarae nad yw’n cynnwys adeiladau, uchafswm y ffi fydd £475
- Os gwneir cais (cynllunio, hysbysebu neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon) ar ran Cyngor Tref neu Gymuned, gostyngir y ffi 50%
- Os yw’r cais yn gynnig gwahanol ar gyfer yr un safle a gyflwynir gan yr un ymgeisydd ar yr un diwrnod, a bod pris y cais hwn yn llai, gostyngir y ffi 50%
- Os cyflwynir dau o geisiadau neu fwy ar gyfer gwahanol gynigion ar yr un safle gan yr un ymgeisydd ar yr un diwrnod, mae’n rhaid talu’r ffi’n llawn ar gyfer y cais â’r ffi fwyaf yn ogystal â hanner cyfanswm y ffioedd ar gyfer yr holl geisiadau eraill
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Mae ffioedd cynllunio wedi’u heithrio ar gyfer:
- Cais ar gyfer addasu neu ymestyn tŷ annedd presennol yn unig, neu waith yng nghwrtil tŷ annedd presennol (ac eithrio codi tŷ annedd newydd) er mwyn darparu:
- Mynedfa i’r tŷ annedd neu’r tu mewn iddo i rywun anabl sy’n byw ynddo, neu sy’n bwriadu dod i fyw ynddo;
- Cyfleusterau a ddylunnir i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gysur i’r unigolyn hwnnw.
- Cais a wneir dim ond i gyflawni gweithrediadau ar gyfer darparu mynedfa i bobl anabl i adeilad neu safle y derbynnir aelodau o’r cyhoedd iddo, neu oddi mewn iddo.
- Os oes a wnelo’r cais â gwaith y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer ar sail cyfarwyddyd erthygl 14 dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd) yn unig; hynny yw, pan mae’n ofynnol gwneud cais dim ond oherwydd cyfarwyddyd neu amod cynllunio sy’n diddymu hawliau datblygu a ganiateir.
- Os oes a wnelo’r cais â dull gwahanol o ddefnyddio adeiladau neu dir sy’n perthyn i’r un Dosbarth Defnydd a bod angen caniatâd cynllunio dim ond oherwydd gofynion amod a bennwyd ar ganiatâd a roddwyd neu y bernir a roddwyd dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).
- Os yw’r cais yn ddiwygiad cyntaf o gais ar gyfer datblygiad o’r un naws neu ddisgrifiad ar yr un safle gan yr un ymgeisydd (gan gynnwys cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb dim ond os caiff hwnnw ei wrthod neu’i dynnu’n ôl):
- Ar gyfer cais a dynnir yn ôl: Cyn pen 12 mis wedi’r dyddiad y derbyniwyd y cais.
- Ar gyfer cais a benderfynwyd: Cyn pen 12 mis wedi’r dyddiad y gwrthodwyd y cais neu y gwrthodwyd apêl.
- Ar gyfer cais y gwnaed apêl ar ei gyfer ar sail diffyg penderfyniad: Cyn pen 12 mis ar ôl i’r cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad o’r penderfyniad ynghylch y cais dilys blaenorol i ben.
- Os yw’r cais yn un am dystysgrif datblygiad cyfreithlon, ar gyfer dull defnyddio presennol, lle byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer yr un datblygiad yn cael ei eithrio rhag yr angen i dalu ffi gynllunio dan unrhyw reoliad arall ynghylch ffioedd cynllunio
- Os yw’r cais yn un am ganiatâd i arddangos hysbyseb sy’n deillio o gyfarwyddyd o dan Reoliad 7 o Reoliadau Rheoli Hysbysebion 1992, sy’n datgymhwyso caniatâd y bernir a roddwyd dan Reoliad 6 ar gyfer yr hysbyseb dan sylw
- Os oes a wnelo’r cais ag amod neu amodau ar gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.
Nid oes unrhyw ffioedd cyfredol ar gyfer:
- Caniatâd Adeilad Rhestredig
- Tystysgrif Cyfreithlondeb Gwaith Arfaethedig ar Adeilad Rhestredig
- Caniatâd Ardal Gadwraeth
- Gwaith ar Goed a warchodir gan Orchymyn Diogelu Coed neu a saif mewn Ardal Gadwraeth
- Hysbysiad Tynnu Perthi
Yn ôl i'r rhestr ffioedd, eithriadau a gostyngiadau.