Tir Comin a Meysydd Pentrefi

Mae Sir Ddinbych yn Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 a Deddf Tiroedd Comin 2006.

Mae'r Cyngor yn dal y cofrestri ar gyfer tir comin a meysydd pentrefi yn Sir Ddinbych ac mae dyletswydd statudol arno i gynnal y cofrestrau.  

Rhestrir pob ardal o dir comin a meysydd trefi neu bentrefi yn y cofrestrau o dan rif uned unigryw. Rhennir y gofrestr ar gyfer pob uned yn dair Adran

Tir - mae hwn yn cynnwys disgrifiad o'r tir a gofrestrwyd fel tir comin neu faes tref neu bentref a map cofrestru swyddogol;

Hawliau - mae hwn yn cynnwys disgrifiad o'r hawliau comin fel yr hawl i bori stoc, neu'r hawl i gasglu i roi coed neu wair dros yr ardal o dir comin y mae modd eu hymarfer ac i'r tir hwnnw y mae'r hawliau hyn ynghlwm iddo.

Perchnogaeth - mae hyn yn cynnwys manylion (os ydynt yn hysbys) o berchnogion y tir cofrestredig.  Fodd bynnag, nid yw tir sydd wedi ei gynnwys yn yr adran hon o'r cofrestrau yn cael eu hystyried i fod yn derfynol yn ôl y gyfraith.

Yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gam-gofrestrwyd) (Cymru) 2017 a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017, gall Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin Sir Ddinbych bellach dderbyn ceisiadau dan adran 19 ac Atodlen 2 Deddf Tiroedd Comin 2006.

  • Mae adran 19 yn galluogi awdurdodau cofrestru tiroedd comin i gywiro gwallau penodol ar y cofrestrau tiroedd comin
  • Mae atodlen 2 yn caniatáu ychwanegu tir sy'n cwrdd â meini prawf perthnasol i'r gofrestr neu dynnu'r tir oddi ar y gofrestr (os nad yw wedi ei gofrestru neu ei gamgofrestru).

Mae rhestr o'r ceisiadau posibl a'r ffioedd perthnasol wedi eu hamlinellu isod.

Ffioedd Ymgeisio
Y ddarpariaeth y gwneir y cais mewn perthynas ag o, neu at y dibenion hynnyPwrpas y caisFfi YmgeisioFfurflen Gais
Adran 19 (2) (a) neu (c) Deddf 2006 Cywiro camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru neu ddileu ychwanegiad wedi'i ddyblygu o'r gofrestr. Dim ffi CA10W
Adran 19 (2) (b) Deddf 2006. cywiriad, at ddiben a ddisgrifir yn adran 19(2)(b) £306 CA10W
Adran 19 (2) (d) neu (e) o Ddeddf 2006 Cywiriad, i ddiweddaru manylion unrhyw enw neu gyfeiriad, neu i gymryd ychwanegiad neu groniad i ystyriaeth.   £51 CA10W
Atodlen 2, paragraff 2 neu 3, i Ddeddf 2006 tir comin neu faes tref neu bentref heb ei gofrestru Dim ffi CA13W
Atodlen 2, paragraff 4, i Ddeddf 2006 tir diffaith neu faenor heb ei gofrestru fel tir comin Dim ffi CA13W
Atodlen 2, paragraff 5, i Ddeddf 2006 Maes tref neu bentref a gam-gofrestrwyd fel tir comin Dim ffi CA13W
Atodlen 2, paragraff 6 - 9, i Ddeddf 2006 Dadgofrestru tir penodol a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes tref neu bentref £2,040 CA13W
Adran 15 (1) o Ddeddf 2006 Cofrestru maes tref neu bentref newydd, ac eithrio gan y perchennog Dim ffi  
Adran 15 (8) o Ddeddf 2006 Cofrestru maes tref neu bentref newydd Dim ffi  

Ffurflenni Cais

Gallwch gael y ffurflenni cais i wneud cais i ddiwygio'r cofrestri tir comin a'r gofrestr trefi neu pentrefi yn ogystal â'r Rheoliadau y cyfeirir atynt uchod a nodiadau cyfarwyddyd cynhwysfawr o wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r ffurflen sydd fwyaf addas i'w hamgylchiadau. Bydd methiant i ddefnyddio'r ffurflen neu gais i'r Cyngor drwy lythyr yn arwain at i gais o'r fath gael ei ystyried yn annilys a bydd yn cael ei ddychwelyd i'r ymgeisydd. Rhaid i unrhyw fapiau neu gynlluniau sydd eu hangen i gyd-fynd â'r ffurflen gais fod yr y raddfa a ragnodwyd fel y manylir yn y ffurflenni cais. 

Rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn ymwybodol y gall dwy set o ffioedd fod yn daladwy ar unrhyw gais, un i'r Cyngor fel Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin ac un i'r Arolygiaeth Gynllunio (PINS) os yw'r cais yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu. Bydd yr Arolygaeth yn hysbysu'r ymgeisydd o'u ffioedd pan wneir yr atgyfeiriad. 

Fe'ch cynghorir yn gryf i ddarllen y Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr ar y ddolen isod.

Deddf Tiroedd Comin 2006 - Adran 19, 22 ac Atodlen 2: Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gam-Gofrestrwyd (gwefan allanol)

Mae hon yn rhan gymhleth o'r gyfraith, a dylai darllenwyr ystyried ceisio cyngor lleol/ cyfreithiol annibynnol am union statws y tir a'i ddefnyddiwr cyn ceisio gwneud unrhyw beth ar yr hyn y maent yn credu a allai fod yn dir comin.

Amser i Benderfynu

Nid oes amser penodol ar gyfer penderfyniadau yn y ceisiadau hyn. Bydd ceisiadau sy'n cael eu hystyried i fod yn ddilys yn cael sylw yn y drefn y cawsant eu derbyn. 

Manylion cyswllt