Adrodd am adeilad peryglus

Os ydych yn creu fod strwythur yn Sir Ddinbych yn anniogel, rhowch wybod i ni. 

Rhowch gwybod am strwythur peryglus ar-lein

Neu ffoniwch 01824 706717 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun I ddydd Iau neu rhwng 9am to 4.30pm ar ddydd Gwener.  Os byddwch eisiau rhoi gwybod am strwythur peryglus y tu allan i’r oriau hyn, ffoniwch ni ar  0345 053 3116.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gysylltu i roi gwybod am strwythur peryglus?

Bydd syrfëwr o’r tîm rheoli adeiladau yn ymweld â’r lleoliad, fel arfer ar yr un diwrnod,  er mwyn asesu’r perygl.

Os yw’r strwythur yn hygyrch i’r cyhoedd a bod y syrfëwr yn ystyried ei fod yn beryglus, byddwn yn:

  • asesu’r angen am unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol ar y safle
  • ceisio cysylltu â’r perchennog/perchnogion a rhoi cyfle iddynt ddatrys y sefyllfa eu hunain o fewn cyfnod rhesymol o amser.  Fodd bynnag os nad yw hyn yn bosibl gallwn weithredu’n uniongyrchol a gwneud trefniadau i’r perygl gael ei ddileu gan adfer y costau sy’n codi yn sgil hynny gan y perchennog wedyn.

Os nad yw’r strwythur yn hygyrch i’r cyhoedd byddwn yn:

  • asesu’r angen am weithredu a rhoi gwybod i’r perchennog am eu cyfrifoldeb i ddileu’r perygl
  • rhoi gwybod i berchnogion tir/adeiladau cyfagos o’r perygl posibl.