Caniatâd Rheoliadau Adeiladu

Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu, bydd angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau presennol. Mae bodloni gofynion rheoliadau adeiladu yn gyfrifoldeb i’r sawl sy’n gwneud y gwaith adeiladu ac, os nad ydynt yr un person, perchennog yr adeilad.

Mae Rheoliadau Adeiladu ar waith i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pobl mewn adeiladau ac o’u cwmpas, sicrhau mynediad a chyfleusterau i bobl anabl a chadwraeth tanwydd a phŵer.

Mae’n debygol y bydd angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch os ydych am;

  • Godi a/neu estyn unrhyw fath o adeilad
  • Newid defnydd adeilad
  • Gosod ffenestri a boeleri newydd
  • Gwneud addasiadau llofft
  • Gwneud addasiadau strwythurol mewnol
  • Gosod neu addasu unrhyw osodiad a reolir, e.e. bath, cawod, boeler
  • Ategu sylfeini adeilad
  • Gosod gosodiadau trydanol
  • Ail-doi ac ail-blastro adeilad

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am reoliadau adeiladu o;

Dogfennau cysylltiedig

Canllawiau ar gyfer taliadau rheoliadau adeiladu (PDF, 198KB)