Trefnu archwiliad rheoliadau adeiladu

Os ydych wedi cyflwyno cais â chynlluniau llawn, hysbysiad adeiladu neu gais rheoleiddiad, gallwch drefnu bod archwiliwr adeiladau yn ymweld â’ch safle drwy gysylltu â’r swyddfa ar  01824 706717.cyn 4pm ar y diwrnod cyn yr archwiliad angenrheidiol.

Gall yr ymgeisydd, asiant neu gontractwr wneud cais am archwiliad o un o’r canlynol ar unrhyw gam o’r gwaith:

  • Cloddio sylfeini cyn gosod concrid
  • Sylfeini ar ôl eu hadeiladu
  • Cwrs gwrth leithder ar ôl ei osod
  • Ardal llawr y safle cyfan (cyn rhoi concrid drosto)
  • Draeniau (cyn eu hôl-lenwi)
  • Draeniau (ar ôl eu hôl lenwi)
  • Cyn meddiannu (angen 5 diwrnod gwaith o rybudd)
  • Cwblhad y gwaith  (angen 7 diwrnod gwaith o rybudd)

Mae’r archwiliadau canlynol hefyd fel arfer yn ffurfio rhan o’r broses archwilio:

  • Strwythur y llawr
  • Strwythur y to
  • Y trawstiau saernïol a’r elfennau cynhaliol
  • Insiwleiddio
  • Suddfannau Dŵr

Os  nad ydych yn sicr a oes arnoch angen archwiliad ai peidio, cysylltwch â’r swyddfa ar 01824 706717.