Clerc Pleidleisio

Gwybodaeth am rôl y Clerc Pleidleisio.

Teitl y Swydd: Clerc Pleidleisio

Math o swydd: Gweinyddol

Cyfrifoldebau a gweithgareddau allweddol

  • Sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu bwrw eu pleidlais yn gyfrinachol, heb ddylanwad ac mewn awyrgylch tawel.
  • Gofyn am a gwirio hunaniaeth pleidleiswyr cyn cyflwyno eu papurau pleidleisio iddynt.
  • Sicrhau bod etholwyr yn deall y gofynion hunaniaeth newydd ar gyfer pleidleiswyr gan gynnwys yr hyn sy’n cyfrif fel dull adnabod derbyniol.
  • Sicrhau bod etholwyr yn gallu cyflwyno eu dull adnabod yn breifat ar gais. 
  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y Swyddog Llywyddu a / neu’r Swyddog Canlyniadau.
  • Sicrhau bod yr holl etholwyr yn cael eu trin â pharch ac yn derbyn yr un profiad ble bynnag y byddant a phryd bynnag y byddant yn pleidleisio.
  • Mae’n rhaid i chi sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais bob amser. 
  • Delio â’r cyhoedd mewn modd cwrtais a phroffesiynol.
  • Cefnogi pleidleiswyr anabl i ddefnyddio unrhyw offer neu ddyfeisiau arbennig.
  • Nid oes modd eich cyflogi os ydych chi wedi cyflawni unrhyw ddyletswyddau ar ran unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd yn yr etholiad.

Oriau / diwrnodau gofynnol

Hyfforddiant: 1 i 2 awr

Diwrnod y Bleidlais: 6:30am tan 10:30pm (16 awr)

Lleoliad

Bydd y Swyddfa Etholiadol yn ceisio gosod staff i’r gorsafoedd pleidleisio sy'n gyfleus iddynt.

Manylion am yr Unigolyn

Manylion am yr Unigolyn ar gyfer rôl y Clerc Pleidleisio
Meini prawfRhinweddau (Hanfodol / Dymunol)
Gwybodaeth Dymunol: Gwybodaeth ymarferol am y broses etholiadol.

Sgiliau a galluoedd

Hanfodol: Gallu cyflawni gwaith yn unol â’r cyfarwyddiadau, hyd yn oed o dan bwysau.
Dymunol: Profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio
Arall

Hanfodol:

  • Gallu aros yn wleidyddol niwtral
  • Prydlondeb
  • Gallu teithio i’ch gorsaf bleidleisio ar yr adegau gofynnol

Dymunol: Diplomyddiaeth a doethineb wrth weithio gydag aelodau’r cyhoedd.

Sut i wneud cais

Gallwch ymgeisio ar-lein – nid ydym yn derbyn CV. I gwblhau’r ffurflen ar-lein byddwch angen cyfeiriad e-bost dilys.

Gwneud cais ar-lein i weithio yn yr Etholiadau