Ailstrwythuro

Mae sawl math neu lefel o newid a all ddigwydd mewn sefydliad ac er mwyn iddynt fod yn llwyddiannus mae angen lefel uchel o ymrwymiad gan reolwyr, os yw’n newid gweddol fach neu'n newid sy'n cynnwys gwasanaeth cyfan.

Bwriad ailstrwythuro gwasanaeth yw cyflawni gwelliannau gwasanaeth wrth ddarparu arbedion effeithlonrwydd a nodwyd.

Er mwyn sicrhau fod proses ailstrwythuro yn cyflawni’r canlyniadau hyn, mae’n hanfodol ystyried ar y dechrau pam fod angen ailstrwythuro a beth fydd y canlyniadau.

Mae’n bwysig fod unrhyw ailgynllunio neu ailstrwythuro gwasanaeth yn cael ei gynllunio'n dda a bod digon o adnoddau ar gael.