Gweithdrefnau gadael a diwedd contract

Cyfnodau rhybudd

Mae gan y cyngor a'r gweithiwr fel arfer hawl i isafswm cyfnod rhybudd o derfynu cyflogaeth.

Mae'r cyfnodau isafswm o rybudd i derfynu cyflogaeth wedi eu rhestru yn y Llawlyfr Gweithwyr.

Ffurflen gadael

Mae'n rhaid i reolwyr lenwi ffurflen gadael cyn gynted ag y bo gweithiwr yn ymddiswyddo o'u swydd – naill ai ar gyfer swydd fewnol neu os ydynt yn gadael y cyngor.

Ffurflen gadawyr (MS Word, 745KB)

Caiff y ffurflen hon ei rhoi gan y rheolwr atebol a'i llenwi a'i dychwelyd i AD rhyw dro yn ystod cyfnod rhybudd yr un sy'n gadael.

Yn dilyn llenwi'r ffurflen, dylai rheolwyr lenwi'r Rhestr Wirio Gadael a'i dychwelyd i Adnoddau Dynol.

Rhestr wirio proses staff syn gadael (MS Word, 689KB)

Holiadur Ymadael

Holiadur Ymadael (gwefan allanol)

Bydd gweithwyr yn cael dolen i arolwg er mwyn llenwi holiadur ymadael. Os yw gweithiwr yn dymuno cael cyfweliad ymadael ychwanegol gyda'i reolwr atebol, Partner Busnes AD, Uwch Reolwr, yna gallant ofyn am un.

Dogfennau cysylltiedig

Gweithdrefn: Cyfweliad ymadawyr ac ymadael (PDF, 2.36MB)