Pensiynau, bywyd gwaith diweddarach ac ymddeoliad

Os ydych chi newydd ddechrau neu'n cyrraedd terfyn eich gyrfa, nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i feddwl am ymddeoliad. Ar gyfer llawer o bobl sy'n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, y gwirionedd yw eu bod yn awr yn gweithio'n hirach nag yr hoffent.

Gan nad oes oedran ymddeol diofyn yn cael ei osod gan y Llywodraeth bellach (a oedd yn 65 oed yn flaenorol), gall gweithwyr ymddeol ar unrhyw oedran ac adeg o'u dewis.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Oni bai eich bod yn ein hysbysu fel arall, byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig. Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Gronfa Bensiwn Clwyd Cyngor Sir y Fflint (gwefan allanol).

Mae aelodau o'r cynllun angen o leiaf 2 flynedd o aelodaeth o'r cynllun i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn ar eu hymddeoliad.

Polisi Disgresiwn a Bandio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (PDF, 309KB)

Buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ddiogel iawn gan ei fod wedi'i nodi mewn cyfraith, nodir rhai o'r buddion isod:

  • Pensiwn diogel am oes;
  • Arian parod di-dreth: mae gennych yr opsiwn i gyfnewid rhan o'ch pensiwn am arian parod di-dreth pan fyddwch yn ymddeol;
  • Tawelwch meddwl: yswiriant bywyd a phensiwn ar gyfer eich gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner enwebedig sy'n cyd-fyw â chi a'ch plant, pe baech yn marw, ac os fyddwch chi'n ddifrifol wael, gallech dderbyn buddion salwch ar unwaith.
  • Ymddeoliad cynnar: gallech ddewis ymddeol o 55 oed a derbyn eich buddion ar unwaith, er efallai y byddent yn is ar gyfer taliad cynnar.
  • Ymddeoliad hyblyg: os ydych chi'n gostwng eich oriau neu'n symud i rôl is, yn 55 oed neu wedi hynny, efallai y gallech dderbyn rhywfaint neu'r holl fuddion yr ydych wedi'u cynilo.
  • Opsiwn i dalu mwy: gallech hybu eich pensiwn trwy dalu mwy o gyfraniadau. Rydych yn derbyn gostyngiad yn y dreth ar y rhain hefyd.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch pensiwn cysylltwch â Chronfa Bensiwn Clwyd (gwefan allanol).

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Opsiynau Ymddeol

Mae nifer o wahanol fathau o opsiynau ymddeol y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, yn dibynnu ar eich oedran.

Ymddeoliad Safonol

Os ydych chi'n ymddeol yn eich oedran pensiwn arferol, bydd pensiwn y cynllun yn cael ei dalu'n awtomatig i chi.

Ymddeoliad cynnar

Os oes gennych o leiaf 2 flynedd o aelodaeth neu eich bod wedi darparu gwerth trosglwyddo i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallech adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn ar unrhyw adeg o 55 oed ymlaen.

Ymddeoliad Effeithlonrwydd Gwasanaeth / Colli Swydd

Os gofynnir i chi ymddeol (neu eich bod yn cytuno i ymddeol) oherwydd effeithlonrwydd gwasanaeth neu golli swydd, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn taliad buddion llawn ar unwaith.

Ymddeoliad Hyblyg

Os ydych chi dros 55 oed, mae gennych yr hawl i ofyn i newid natur a dwysedd eich gwaith; i dderbyn buddion pensiwn sydd wedi'u cronni tra'n parhau yn eich cyflogaeth a pharhau i gyfrannu at eich buddion yn y cynllun, gan eich galluogi i ddechrau eich ymddeoliad o fewn 2 flynedd ar ôl dechrau'r cytundeb.

Gallai'r newid olygu:

  • Isafswm o 20% o ostyngiad yn eich oriau gwaith;
  • Newidiadau yn eich dyletswyddau sy'n arwain at ostyngiad o 20% yn eich cyflog.

Mae'n rhaid iddo ddiwallu gofynion y Gwasanaeth ac fe gymeradwyir y newid yn ôl disgresiwn y cyngor. Er bod gennych yr hawl i ofyn am newid i'ch oriau gwaith neu radd er mwyn hwyluso ymddeoliad hyblyg nid oes rhwymedigaeth ar y cyngor i gytuno i hynny.

Polisi - Ymddeol Hyblyg (PF, 737KB)

Ymddeoliad ar sail salwch

Os oes gennych chi o leiaf 2 flynedd o aelodaeth neu eich bod wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r cynllun, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn eich buddion llawn yn gynnar ar sail salwch, beth bynnag fo'ch oedran.

Ymddeoliad Hwyr

Os ydych chi'n parhau i weithio ar ôl yr oedran ymddeol arferol, mae modd i chi barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni aelodaeth bellach yn y cynllun.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth am Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys opsiynau ymddeol ar wefan Cronfa Bensiwn Clwyd (gwefan allanol).

Dogfennau cysylltiedig