Gweithdrefn Achwyniad

Mae’r cyngor yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg a chyfiawn sy’n datrys cwynion yn sydyn a mor deg â phosib.

Anogir gweithwyr i gyfathrebu'n agored ac fe ddylech drafod unrhyw gwestiwn neu bryder yn anffurfiol gyda'ch rheolwr atebol yn gyntaf cyn gwneud cwyn ffurfiol.

Os nad yw’r broblem yn cael ei datrys, mae gennych y dewis i wneud cwyn ffurfiol. Bydd yn rhaid i chi gwblhau’r ffurflen angenrheidiol ac yna ei hanfon at eich rheolwr atebol.

Mae gweithdrefn gwyno a gweithdrefn gwyno gyfunol wedi’u datblygu er mwyn egluro yn union sut y bydd y broses yn gweithio.

Dogfennau cysylltiedig