Absenoldeb rhiant

Mae rheolau absenoldeb rhiant yn nodi bod absenoldeb rhiant yn berthnasol i blant sydd wedi eu geni ar ôl 15 Rhagfyr 1999, sef y dyddiad y daeth y rheolau i rym. Nid oes yn rhaid talu gweithiwr am absenoldeb rhiant.

Gweithiwr sydd wedi cwblhau un flwyddyn o wasanaeth ac sydd â chyfrifoldeb, neu’n mynd i fod yn gyfrifol, am blentyn (gan gynnwys plentyn wedi’i fabwysiadu) hyd nes bydd y plentyn yn 18 mlwydd oed. Mae gweithwyr sydd â chyfrifoldeb 'rhiant' yn cynnwys rheini, rhieni maeth, mabwysiadwyr a gwarcheidwaid.  Mae absenoldeb rhiant yn berthnasol i bob plentyn. Felly os oes gan weithiwr efeilliaid, bydd ganddyn nhw hawl i 36 wythnos o absenoldeb rhiant.

Hawl i Absenoldeb Rhiant

Mae absenoldeb rhiant yn ddi-dâl. Rhaid i'r plentyn fod o dan 18 oed. Mae cyfanswm yr hawl 18 wythnos ar gyfer y cyfnod cyfan, nid fesul blwyddyn. Mae absenoldeb rhiant yn berthnasol i bob plentyn, nid i swydd unigolyn.

Absenoldeb Rhiant a Rennir

Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL) yn galluogi rhieni cymwys i ddewis sut i rannu gofal eu plentyn / plant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl geni neu fabwysiadu ar gyfer y rhai sydd i'w geni neu eu lleoli i'w mabwysiadu ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015. Y pwrpas yw rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni wrth ystyried sut i ofalu amdanyn nhw, a chreu bond â'u plentyn.

Polisi rhieni (PDF, 779KB)