Absenoldeb tosturiol

Caniateir uchafswm o 5 diwrnod (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser) o absenoldeb wedi marwolaeth aelod o’r teulu pan fo angen amser i ffwrdd ar y gweithiwr ar sail dosturiol.

Mae’n rhaid i’r gweithiwr hysbysu ei reolwr atebol o’r brofedigaeth a thrafod faint o amser rhesymol i ffwrdd sydd ei angen arnynt. Bydd cyfanswm yr amser a geisir yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol, ni fydd y dyfarniad uchaf o 5 diwrnod yn berthnasol ym mhob achos, er enghraifft, efallai mai dim ond 1 diwrnod y bydd y gweithiwr ei angen i fynd i’r angladd, gan hynny dyfernir 1 diwrnod.

Y diffiniad o aelod o'r teulu yw gŵr, gwraig, partner, rhiant, rhiant yng nghyfraith (gan gynnwys rhieni’r partner os nad yw rhywun yn briod), gwarcheidwad, mab neu ferch, ŵyr neu wyres, neiniau a theidiau (gan gynnwys hen neiniau a theidiau), brawd a chwaer (gan gynnwys brawd a chwaer yng nghyfraith, a brawd a chwaer partner os nad yw rhywun yn briod), modryb, ewythr, nith neu nai. Mae hyn hefyd yn cynnwys perthnasau pan fyddant ar sail ‘llys’, h.y. llys-dad, llys-fam, llys-frawd a llys-chwaer.

Mae’r hawliad ar gael ar gyfer pob profedigaeth sy’n cynnwys aelod o’r teulu.

Holwch Adnoddau Dynol os ydych angen rhagor o gymorth.

 

Dogfennau cysylltiedig

Polisi amser o'r gwaith (PDF, 782KB)