Buddion ychwanegol i weithwyr

Dewiswch bennawd isod am ragor o wybodaeth.

Gweithle Actif

Gweithle Actif

Mae’r cynnig hwn ar gael i weithwyr dan gontract (contractau parhaol/cyfnod penodol) Cyngor Sir Ddinbych yn unig ac nid yw ar gael i staff cyflenwi, achlysurol neu wrth gefn.

Os ydych chi’n weithiwr parhaol neu gyfnod penodol Cyngor Sir Ddinbych, ac wedi bod yn gweithio i’r Cyngor ers tri mis neu fwy, yna fe allwch chi fanteisio ar aelodaeth campfa Hamdden Sir Ddinbych Cyf. am bris ostyngol. Dyma’r dewisiadau aelodaeth sydd ar gael i chi:

  • Campfa Graidd (CSDd Campfa & Nofio): £20 y mis
  • Premiwm (campfa, nofio, dosbarthiadau a Seiclo Clwb): £37 y mis

Dim ffi ymuno ar gyfer Staff CSDd ar y Gampfa Graidd yn unig. Ffi Ymuno yw £25 ar gyfer Aelodaeth Premiwm.

Cofrestrwch ar gyfer aelodaeth campfa

Buddion o gael Aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych:

  • Dim contract hirdymor: mae’r tâl aelodaeth yn daladwy o fis i fis drwy archeb sefydlog, felly nid oes angen unrhyw ymrwymiad.
  • Gall pobl nad ydynt yn aelodau fanteisio ar sesiynau nofio cynnar am ddim tan 9am ym mhyllau nofio Sir Ddinbych. Rydym yn argymell y dylech gysylltu â’r safle er mwyn cadw lle ymlaen llaw, ond gallwch fynd â slip cyflog neu fathodyn ID gyda chi.
  • Rydym yn cynnig cefnogaeth bersonol i’ch rhoi ar ben ffordd. Rydym yn teilwra'r gefnogaeth er mwyn eich helpu i gyrraedd eich amcanion. Gallech hefyd ddewis derbyn eich Cynllun Ffitrwydd Personol eich hun, pwyntiau cyffwrdd parhaus, ac adolygiad cyson o'r rhaglen, pethau sydd i gyd yn gynwysedig yn eich aelodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y buddion i staff ar gael ar wefan Hamdden Sir Ddinbych (gwefan allanol), neu rhowch ganiad i’ch Canolfan Hamdden leol. Bydd staff y Canolfannau yn hapus i drafod y pecyn aelodaeth gorau i chi.

CSSC

CSSC

Darganfod “mae’r pethau gorau i’w cael am ddim, gyda CSSC”

Mae CSSC wedi bod yn ysbrydoli cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r sector cyhoeddus i fanteisio ar eu hamser rhydd ers dros 100 o flynyddoedd. Mae CSSC yn cynnig dros 4,000 o fuddion, gostyngiadau a phrofiadau unigryw, ac mae’n ei gwneud yn hawdd mwynhau adegau cofiadwy gyda theulu a ffrindiau ac arbed arian ar yr un pryd.

Buddion aelodaeth y byddwch chi wrth eich bodd â nhw:

  • mynediad blynyddol am ddim i deuluoedd i safleoedd Cadw a English Heritage.
  • mynediad diderfyn i Erddi Kew a Wakehurst.
  • mynediad am bris gostyngol i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban a Historic Scotland.
  • heriau lles actif drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys rhoddion a gwobrau.

Arbedion anhygoel a mwy:

  • gostyngiadau mawr ar brisiau parciau thema, atyniadau i deuluoedd, tocynnau sinema a gwyliau.
  • gostyngiadau ar brisiau campfeydd mewn dros 3,500 o gampfeydd, clybiau iechyd a stiwdios ioga.
  • hyd at 10% o’ch arian yn ôl mewn miloedd o fanwerthwyr gyda'n ap arbedion ar ddyfeisiau symudol.
  • mynediad i ddigwyddiadau lleol, clybiau chwaraeon a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • cymorth ariannol i'ch helpu chi ar eich siwrnai ffitrwydd.
  • digwyddiadau arbennig i aelodau.

Am £4.99 yn unig y mis (17c y dydd), gallech chi arbed dros £300 y flwyddyn a chael profiadau llawn hwyl ac anturiaethau newydd.

Pam CSSC?

  • Dim contract na thelerau gofynnol – cewch ymuno a gadael unrhyw bryd.
  • Cewch gadw'r aelodaeth, hyd yn oed os byddwch chi'n newid swyddi.
  • Prisiau gostyngol ar gael i aelodau sydd wedi ymddeol.
  • Cofrestrwch mewn llai na phum munud a dechreuwch arbed ar unwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: Buddion Aelod Cymru (gwefan allanol).

I gael mynediad ar unwaith i fudd-daliadau CSSC, ymunwch ar-lein ar wefan CSSC (gwefan allanol).

Mae creu atgofion bythgofiadwy gyda CSSC yn haws nag erioed. Mae’r pethau gorau i’w cael am ddim, gyda CSSC!

Cymdeithas Ysbytai Cymru

Cymdeithas Ysbytai Cymru

Mae Cymdeithas Ysbytai Cymru (WHA) yn sefydliad nid-er-elw sy’n cynnig ystod o gynlluniau gofal iechyd rhad er mwyn cynorthwyo aelodau gyda chostau bob dydd cadw'n iach, e.e. deintyddion, optegwyr, ffisiotherapyddion. Gallwch gytuno i gael swm penodol wedi’i dynnu o’ch cyflog bob mis a fydd yn darparu yswiriant i chi eich hun neu i chi a'ch gŵr/gwraig neu eich partner. Gall aelodau WHA hawlio buddion arian am ofal optegydd, triniaeth gan ddeintydd, ffisiotherapi, osteopathi, a mamolaeth, er enghraifft. Hefyd, mae buddion ariannol ar gael am bob diwrnod a dreulir mewn ysbyty fel claf mewnol neu fel glaf allanol, ac mae plant o dan 18 oed yn cael rhai o’r buddion heb gost ychwanegol.

Os bydd gennych ddiddordeb yn y WHA, neu os bydd arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Gyflogau ar 01824 706033 neu ewch i wefan Cymdeithas Ysbytai Cymru (gwefan allanol).

Clwb Teithio Bysiau Arriva

Clwb Teithio Bysiau Arriva

Mae Clwb Teithio Cyflogwyr Bysiau Arriva’n cynnig cyfle i staff arbed arian wrth deithio ar fysiau. Gall staff ddewis prynu tocyn blynyddol am bris gostyngol neu docyn tymor am bris gostyngol, a thalu’n fisol.

Am ragor o wybodaeth, neu er mwyn ymuno â’r cynllun, ewch i wefan Bysiau Arriva (gwefan allanol).

Cynllun Prydlesu Ceir Cyngor Sir Ddinbych

Cynllun Prydlesu Ceir Cyngor Sir Ddinbych

Awydd car newydd sbon?  Mae ein Cynllun Prydlesu Cerbydau’n cynnwys hurio’r car; gwasanaethu rheolaidd; costau trwsio wedi’u cynnwys yng ngwarant y gwneuthurwr; treth, yswiriant a chymorth ochr y ffordd i gyd am un taliad sefydlog misol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Fflyd ar 01824 708460.

Cynllun Talebau Specsavers

Offer Sgrin Arddangos

Fel cyflogwr, rhaid i ni ddiogelu ein gweithwyr rhag y risgiau iechyd o weithio gydag offer sgrin arddangos (DSE), megis cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar.

Mae'r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Offer Sgrin Arddangos) yn berthnasol i weithwyr sy'n defnyddio DSE bob dydd am gyfnodau parhaus o awr neu fwy. Rydym yn disgrifio'r gweithwyr hyn fel 'defnyddwyr DSE'. Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i weithwyr sy'n defnyddio DSE yn anaml neu'n ei ddefnyddio am gyfnod byr yn unig.

Gall defnydd anghywir CSA, neu weithfannau neu amgylcheddau gwaith wedi’u dylunio’n wael arwain at boen gwddf, cefn, breichiau, arddyrnau a dwylo, yn ogystal â blinder a straen i'r llygaid. Efallai na fydd yr achosion bob amser yn amlwg.

Lle bo’r rheoliadau’n berthnasol, dylai’r Rheolwr sicrhau bod gweithwyr yn cynnal asesiad DSE (Mewnrwyd LINC) a’i gyflwyno i’w rheolwr i’w adolygu.

Mae angen cynnal asesiad risg newydd os oes newid i’r defnyddiwr, newid i’r offer, neu o ran lleoliad neu osodiad.

Dylai gweithwyr hyblyg sy'n defnyddio offer DSE am gyfnodau estynedig ddilyn y broses hon ar gyfer pob lleoliad.

Profion llygaid ar gyfer defnyddwyr DSE

Rhaid i gyflogwr ddarparu prawf golwg ar gyfer defnyddiwr DSE os bydd yn gofyn am un. Rhaid i'r cyflogwr dalu am y prawf hefyd. Dylai hwn fod yn brawf llygaid a golwg llawn gan gynnwys prawf golwg ac archwiliad llygaid.

Sbectol ar gyfer gwaith DSE

Dim ond os yw'r prawf yn dangos bod angen sbectol arbennig ar weithiwr a ragnodwyd ar gyfer y pellter yr edrychir ar y sgrin, y mae'n rhaid i gyflogwyr dalu am sbectol ar gyfer gwaith DSE. Os yw presgripsiwn cyffredin yn addas, nid oes rhaid i gyflogwyr dalu am sbectol.

Cynllun Talebau Specsavers

Yng Nghyngor Sir Ddinbych rydym yn defnyddio’r cynllun Talebau Specsavers Corfforaethol a fydd yn talu am bris pâr o sbectol pellter canol (pc) yn unig ac yn benodol at ddefnydd VDU os oes angen. Ni ddarperir cywiriad arall o dan y daleb h.y. agos neu bell gan nad yw'n dod o dan y rheoliadau. Bydd y daleb hefyd yn talu am gost y prawf. Ni all defnyddiwr ofyn am daleb os yw eisoes wedi derbyn un o fewn dwy flynedd.

Os yw’r uchod yn berthnasol, yna mae’n rhaid i’r Rheolwr e-bostio Cyswllt AD i gadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer prawf llygaid a hefyd darparu Rhif Cyflogres y cyflogai a chod cyllideb, a bydd taleb yn cael ei e-bostio at y gweithiwr yn uniongyrchol gan Specsavers.

Cysylltu â ni