Tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

Cyflog Mamolaeth Statudol

I fod yn gymwys am Gyflog Mamolaeth Statudol, mae’n rhaid i chi fod wedi'ch cyflogi am o leiaf 26 wythnos cyn y 15fed wythnos cyn genedigaeth y babi (h.y. 41 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni).

Mae'n rhaid i'ch enillion cyfartalog yn yr 8 wythnos yn arwain at, ac yn cynnwys eich wythnos gymhwyso, fod yn hafal leiaf â'r enillion is sy'n gyfyngedig ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gymwys am Gyflog Mamolaeth Statudol, byddwch yn cael ffurflen Cyflog Mamolaeth Statudol 1, oherwydd efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth o’r Ganolfan Byd Gwaith a Mwy.

Cyflog Mamolaeth Galwedigaethol

Os ydych yn gymwys am Gyflog Mamolaeth Galwedigaethol, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi am o leiaf 52 wythnos cyn yr 11eg wythnos cyn genedigaeth eich babi (h.y. 63 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni).

Os ydych yn gymwys am Gyflog Mamolaeth Galwedigaethol neu Statudol, byddwch yn cael 90% o’ch enillion cyfartalog am y 6 wythnos gyntaf, cyn yr wythnos gymhwyso, neu 90% o gyflog eich contract os ydych yn gymwys am Gyflog Mamolaeth Galwedigaethol, pa'r un bynnag sy'n fwy. Am y 12 wythnos nesaf byddwch yn cael y gyfradd safonol o'r Cyflog Mamolaeth Statudol ac, os ydych yn gymwys am y Cyflog Mamolaeth Galwedigaethol, hanner eich cyflog. Ceir eithriad os yw hanner eich cyflog a’r Cyflog Mamolaeth Statudol yn fwy na’ch cyflog wythnosol arferol, os bydd hyn yn wir, bydd eich hanner cyflog yn cael ei leihau. Am y 21 wythnos nesaf, byddwch ond yn cael cyfradd safonol y Cyflog Mamolaeth Statudol yn unig.

Os nad ydych yn dychwelyd i’r gwaith am o leiaf tri mis ar ôl eich cyfnod mamolaeth, bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw hanner cyflog o’r Cyflog Mamolaeth Galwedigaeth rydych wedi’i gael. Os ydych yn ansicr am eich dychweliad, gallwch ofyn bod yr hanner cyflog hwn yn cael ei atal ar ddechrau eich cyflog mamolaeth.

Os ydych yn gwybod am ba mor hir rydych am fynd ar gyfnod mamolaeth, gallwch ddewis gael cyflog cyfartalog dros y cyfnod, fel bod eich cyflog yn gyson bob mis.

Y Llywodraeth sy’n penderfynu ar gyfradd safonol y Cyflog Mamolaeth Statudol.

Yn ystod eich cyfnod mamolaeth, bydd gennych y dewis i fynd i’r gwaith (am hyfforddiant neu i wneud gwaith) am uchafswm o 10 diwrnod, y cyfeirir atynt fel diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad. Byddwch yn cael eich talu cyfwerth â chyflog un diwrnod llawn ar gyfer bob diwrnod Cadw Mewn Cysylltiad h.y. bydd eich Cyflog Mamolaeth Statudol yn parhau i gael ei dalu am y diwrnod hwnnw ac ychwanegir ato, fel eich bod yn cael cyflog sy'n gyfwerth â diwrnod llawn.

Cyflog Tadolaeth Statudol

Bydd Cyflog Tadolaeth Statudol yn cael ei dalu am gyfnod yr absenoldeb Tadolaeth, ar yr amod bod y canlynol yn gymwys:

  • Mae’r gweithiwr wedi bod mewn cyflogaeth â’r cyngor am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth; a
  • Mae enillion wythnosol cyfartalog y gweithwyr yn uwch na’r terfyn is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Cyflog Mabwysiadu

Mae gweithwyr sy’n cael plentyn i’w fabwysiadu ac yn bwriadu manteisio ar gyfnod mabwysiadu’n cael yr hawl i uchafswm o 39 wythnos o Gyflog Mabwysiadu Statudol, os ydynt wedi gwneud y canlynol:

  • Eu bod wedi gweithio i’w cyflogwr am gyfnod di-dor sydd o leiaf 26 wythnos, gan ddarfod yr wythnos y cânt wybod eu bod wedi cael plentyn i’w fabwysiadu;
  • Mae eu henillion wythnosol cyfartalog o leiaf yn hafal â’r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Pan fydd cwpl yn mabwysiadu, dim ond un unigolyn fydd yn gymwys am gyfnod mabwysiadu a chyflog. Bydd yr unigolyn arall yn gallu cymryd Absenoldeb Cefnogaeth Mamolaeth.

Lle bo’n bosibl, rhai i weithiwr roi rhybudd sydd o leiaf 28 diwrnod o’r dyddiad y maent am i’w Cyflog Mabwysiadu Statudol ddechrau.

Dogfennau cysylltiedig

Polisi rhieni (PDF, 779KB)