Ar ôl y cyfweliad

Galwad ffôn ar ôl y cyfweliad

Sut fydda i'n gwybod a ydw i wedi bod yn llwyddiannus ar ôl cyfweliad?

Yn y cyfweliad, dylai'r rheolwr recriwtio allu rhoi syniad i chi o pryd y byddwch yn clywed am ganlyniad eich cyfweliad. Ar ôl y cyfweliad, bydd y rheolwr recriwtio yn cysylltu â chi dros y ffôn i roi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus a bydd yn cynnig y rôl i chi yn amodol. Yna, fe gewch neges e-bost i gadarnhau.

Os byddwch yn aflwyddiannus, bydd y rheolwr recriwtio yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am hyn a chynnig adborth i chi.

Os byddaf yn llwyddiannus, pryd fydda i'n gallu dechrau gweithio?

Bydd eich rheolwr newydd yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad dechrau cyfleus. Ni fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau cyflogaeth nes ein bod wedi cwblhau ein holl wiriadau recriwtio mwy diogel; geirdaon boddhaol, gwiriad gan y GDG (lle bo'n berthnasol), gwiriad meddygol, tystiolaeth Hawl i Weithio yn y DU, trwydded yrru (lle bo'n berthnasol).

Er mwyn eich galluogi i ddechrau cyn gynted â phosibl, efallai y byddwn yn gofyn i chi ein helpu i fynd ar ôl unrhyw wiriadau sydd heb eu cwblhau, megis tystlythyrau.

Faint o gyflog fydda i'n ei gael?

Rydym bob amser yn hysbysebu'r ystod cyflog ar gyfer y rôl o fewn y pecyn swydd wag a'r hysbyseb swydd. Bydd y swydd-ddisgrifiad hefyd yn rhestru graddfa’r swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd y gyfradd gyflog yn cael ei chadarnhau gan eich rheolwr newydd adeg eich penodi yn ogystal ag yn eich contract.

Pryd fydda i'n cael fy nhalu?

Telir pob gweithiwr ar y 18fed o bob mis heblaw gweithwyr yr ysgol, y telir ar yr 28ain o bob mis.

Rwy'n gweithio i awdurdod arall ar hyn o bryd. A gaiff fy ngwasanaeth blaenorol ei gyfrif?

Caiff, os nad oes mwy nag wythnos o egwyl rhwng symud o un awdurdod i’r llall. Bydd gwasanaeth parhaus hefyd yn cael ei gyfrif os ydych yn gweithio ar hyn o bryd i Awdurdodau'r Heddlu Lleol, ysgolion amrywiol a rhai cyrff sector cyhoeddus eraill, y rhai a gwmpesir gan y Gorchmynion Addasu. I wirio, siaradwch â'r rheolwr recriwtio neu AD. 

Os byddaf yn llwyddiannus, a fydd angen i mi gwblhau cyfnod prawf?

Bydd gan bob penodiad o leiaf 6 mis o gyfnod prawf. Yn ystod y cyfnod prawf, disgwyliwch gael adolygiad prawf ymhen 3, 5 a 6 mis. Mae hwn yn gyfnod o ddysgu a chefnogaeth sy'n helpu i'ch gwreiddio yn y tîm a'r sefydliad.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghyngor Sir Ddinbych. Rydym am wneud y broses ymgeisio a recriwtio yn un gadarnhaol ac rydym yn darparu cymorth ychwanegol i'r rhai a all fod ei angen.

Rydym am i’n gweithwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys, er mwyn cyrraedd eu llawn botensial. Os oes gennych anabledd a bod angen addasiad rhesymol arnoch yn ystod y broses recriwtio, yna rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich cefnogi.

Dysgu mwy am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Polisi Cyfle Cyfartal mewn Cyflogaeth (PDF, 350KB)

Cynllun Hyderus o ran Anabledd a Chyfamod y Lluoedd Arfog

Rydym wedi ennill achrediad Hyderus o ran Anabledd ac rydym hefyd wedi ennill y Wobr Aur ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Os oes gennych anabledd neu os ydych yn gwasanaethu neu wedi bod yn y lluoedd arfog, rydych yn sicr o gael cyfweliad cyn belled â bod eich cais yn dangos eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Logo Achredu Hyderus Anabledd a logo Cyfamod y Lluoedd Arfog

Hyderus o ran Anabledd

Fel rhan o'r achrediad Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un ag anabledd (gwefan allanol) sy'n dangos drwy eu cais eu bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer y swydd.

Er mwyn cael eu hystyried dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr ddatgelu bod ganddynt anabledd ac yr hoffent gael eu hystyried ar gyfer y cynllun. Mae'r wybodaeth hon i'w chael yn yr adran Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar y ffurflen gais. Nodwch na fydd unrhyw wybodaeth neu fanylion a gynhwysir gyda'r ffurflen Cyfle Cyfartal yn cael eu hanfon at y rheolwr recriwtio.

Os hoffech wneud cais am unrhyw addasiadau neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol, anfonwch e-bost at cyswlltad@sirddinbych.gov.uk neu cysylltwch â'r rheolwr recriwtio.

Cymuned y Lluoedd Arfog

Fel rhan o’n hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, rydym yn cydnabod y gallai’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog fod dan anfantais o ran sicrwydd cyflogaeth ystyrlon ac addasu i amgylchedd sifil. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfraniad y gall aelodau o gymuned y lluoedd arfog ei wneud i'n sefydliad.

Felly rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sy'n gwasanaethu neu sy'n gadael sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd wag allanol.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y Polisi Recriwtio.

Polisi Recriwtio (PDF, 1.77MB)

Data Cyfle Cyfartal

Gofynnwn am eich gwybodaeth Cyfle Cyfartal fel rhan o’r broses ymgeisio er mwyn monitro effeithiolrwydd ein cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn Cyngor Sir Ddinbych. Gallwn eich sicrhau nad yw'r wybodaeth hon yn cael ei hanfon at y rheolwr recriwtio ac nad yw'n rhan o'r broses ddethol.

Gwiriadau Hawl i Weithio

Mae'n ofyniad cyfreithiol sicrhau bod gan holl weithwyr Cyngor Sir Ddinbych hawl gyfreithiol i weithio o fewn y DU. Bydd nifer o rolau o fewn y Cyngor y bydd angen gwiriadau ychwanegol ar eu cyfer oherwydd natur y rôl. Bydd y gwiriadau hyn yn cynnwys Gwiriadau GDG (a elwid gynt yn wiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol), asesiadau iechyd gwaith a thystiolaeth o gymwysterau.

Bydd y gwiriadau gofynnol yn cael eu gwneud yn glir ar y cam cynnig swydd.

Bydd pob cynnig cyflogaeth yn amodol ar dderbyn gwiriadau boddhaol.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y Polisi Recriwtio.

Polisi Recriwtio (PDF, 1.69MB)

Hawl i weithio yn y DU

I gael mwy o wybodaeth am ba ddogfennau fydd eu hangen ar y cam cyfweld, ewch i wefan GOV.UK (gwefan allanol).

Canllawiau Pellach

Ein nod yw sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael profiad cadarnhaol wrth wneud cais am rôl o fewn Cyngor Sir Ddinbych. Rydym am wneud ein gorau i sicrhau bod y broses yn un syml ac felly rydym wedi rhestru rhywfaint o ganllawiau isod:

  • Bydd gan bob swydd y byddwn yn ei hysbysebu Swydd-ddisgrifiad ac adran Manylion am yr Unigolyn. Sicrhewch eich bod yn darllen y dogfennau hyn yn drylwyr ac yn cadw copi os oes angen gan na fydd yn hawdd cael yr wybodaeth hon unwaith y bydd y swydd yn cau ar-lein.
  • Dylid cwblhau ceisiadau drwy ein dull ymgeisio ar-lein. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif, bydd y system yn cadw eich manylion ar gyfer ymgeisio'n gynt y tro nesaf.
  • Mae'n bwysig llenwi pob rhan o'r ffurflen. Os nad yw adran yn berthnasol, ysgrifennwch Amh (amherthnasol) yn y gofod a ddarperir. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y broses ddethol sy'n ein galluogi i lunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad a helpu fel sail ar gyfer y cyfweliad ei hun. Cofiwch na fyddwn yn gwneud unrhyw ragdybiaethau amdanoch chi ac os na fyddwch yn dweud wrthym amdanynt, ni fyddwn yn gwybod.
  • Mae ein Gwerthoedd a'n Hegwyddorion yn bwysig i ni felly ystyriwch sut y byddwch yn gweddu â'n diwylliant.
  • Nid yw CVs yn unig yn dderbyniol ond gellir eu cyflwyno ynghyd â ffurflen gais drwy anfon e-bost at cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.
  • Cofiwch lenwi eich ffurflen monitro cyfle cyfartal, mae'r manylion hyn yn gwbl gyfrinachol ac yn ein cynorthwyo i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth i ddarparu adroddiadau Cydraddoldeb dienw.
  • Edrychwch yn ofalus ar y swydd-ddisgrifiad, y ffurflen manylion am yr unigolyn a'r hysbyseb, bydd hyn yn rhoi cipolwg i chi ar y rôl yr ydych yn gwneud cais amdani.
  • Gofynnwch i chi'ch hun pam fod gennych chi ddiddordeb yn y swydd a pha sgiliau a phrofiad y gallwch chi eu cynnig i'r rôl.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais ar amser.
  • Dewch i'n hadnabod ni. Bydd ymchwilio i Gyngor Sir Ddinbych a’r Gwasanaeth yn rhoi mwy o fewnwelediad, agendâu a blaenoriaethau i chi a allai fod yn berthnasol i’r swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Rydym am i bawb gael profiad cadarnhaol wrth ymgeisio am yrfa gyda Chyngor Sir Ddinbych. Os nad ydych yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio y byddwch yn dal i allu cael cipolwg ar ein sefydliad ac yn elwa o bethau cadarnhaol o'r broses.

Os hoffech rannu unrhyw adborth cadarnhaol neu os teimlwch ar unrhyw adeg na ddilynwyd gweithdrefnau cywir y broses, cysylltwch â ni yn cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.