Contractau tymor penodol

Ystyr contract tymor penodol yw contract cyflogaeth sy’n dod i ben:

  • pan gyrhaeddir dyddiad penodedig
  • pan fo tasg benodedig wedi’i chwblhau
  • pan fo neu pan nad yw digwyddiad penodedig yn digwydd

Dyma rai enghreifftiau o weithwyr tymor penodol:

  • gweithwyr sy’n cael eu cyflogi dros gyfnodau tymhorol prysur
  • gweithwyr sy’n cael eu cyflogi’n benodol dros gyfnod mamolaeth neu absenoldeb oherwydd salwch
  • gweithwyr sy’n cael eu cyflogi i weithio dros dro yn lle gweithiwr parhaol sydd ar secondiad dros dro neu sy'n absennol am ryw reswm arall
  • gweithwyr sy'n cael eu cyflogi i wneud tasg benodol
  • pan nad oes cyllid wedi’i gytuno ond am gyfnod penodol

Polisi contractau cyfnod penodol (PDF, 261KB)

Cysylltu â ni