Swyddog Llywyddu

Gwybodaeth am rôl y Swyddog Llywyddu.

Teitl y Swydd: Swyddog Llywyddu

Math o swydd: Goruchwyliol

Cyfrifoldebau a gweithgareddau allweddol

  • Cyfrifoldeb am gynnal y bleidlais yn yr orsaf bleidleisio.
  • Cyfrifoldeb am reoli eich staff pleidleisio. 
  • Sicrhau bod y bleidlais yn cael ei chyflawni’n gywir a chadw cyfrif o’r holl bapurau pleidleisio.  
  • Sicrhau bod dull adnabod pleidleiswyr yn cael ei geisio a’i wirio cyn cyflwyno eu papurau pleidleisio iddynt.
  • Sicrhau bod etholwyr yn deall y gofynion hunaniaeth newydd ar gyfer pleidleiswyr gan gynnwys yr hyn sy’n cyfrif fel dull adnabod derbyniol.
  • Sicrhau bod etholwyr yn gallu cyflwyno eu dull adnabod yn breifat ar gais. 
  • Bod yn gyfrifol am wrthod rhoi papur pleidleisio i etholwr os na chyflwynir dull adnabod ganddynt; neu os nad ydych yn credu bod eu dull adnabod yn debyg iddynt; neu eich bod yn credu ei fod yn ffug. 
  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y Swyddog Canlyniadau a’u staff.
  • Sicrhau bod yr holl etholwyr yn cael eu trin â pharch ac yn derbyn yr un profiad ble bynnag y byddant a phryd bynnag y byddant yn pleidleisio.
  • Mae’n rhaid i chi sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais bob amser. 
  • Cysylltu â’r sawl sy’n gyfrifol am yr allweddi a chynllunio ar gyfer agor a chau eich adeilad pleidleisio.  Dylech hefyd ymweld â’ch gorsaf bleidleisio ymlaen llaw i sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer diwrnod y bleidlais.
  • Cysylltu â’ch clerc(od) pleidleisio, ac unrhyw Swyddog(ion) Llywyddu eraill a benodwyd i’r un man pleidleisio o leiaf wythnos cyn diwrnod y bleidlais.
  • Casglu eich blwch (blychau) pleidleisio a’r offer cyn diwrnod y bleidlais yn eich slot amser penodol.  Mae’n rhaid cadw’r blwch (blychau) mewn lleoliad diogel hyd ddiwrnod y bleidlais.
  • Cyfrifoldeb am osod eich gorsafoedd pleidleisio a gadael yr adeilad yn daclus a diogel. 
  • Sicrhau bod eich gorsafoedd pleidleisio yn agor a chau ar yr adegau priodol.
  • Bod yn gyfrifol am aseinio gwaith i staff yr orsaf bleidleisio a sicrhau y dilynir y weithdrefn gywir ar gyfer pleidleisio.
  • Delio â’r cyhoedd mewn modd cwrtais a phroffesiynol.
  • Cefnogi pleidleiswyr anabl i ddefnyddio unrhyw offer neu ddyfeisiau arbennig.
  • Cwblhau cyfrif y papurau pleidleisio ac unrhyw waith papur arall, gan gynnwys rhestr o wrthodiadau a ffurflen werthuso dull adnabod pleidleiswyr.
  • Danfon y blwch pleidleisio a’r holl offer arall i leoliad y cyfrif yn brydlon ar ôl cau’r bleidlais.
  • Nid oes modd eich cyflogi os ydych chi wedi cyflawni unrhyw ddyletswyddau ar ran unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd yn yr etholiad.

Oriau / diwrnodau gofynnol

  • ymweld â’r orsaf bleidleisio ymlaen llaw: 1 awr
  • casglu’r blwch pleidleisio: 1 awr
  • hyfforddiant - 2 awr
  • diwrnod y Bleidlais: 6am tan 11pm (17 awr) 

 

Lleoliad

Bydd y Swyddfa Etholiadol yn ceisio gosod staff i’r gorsafoedd pleidleisio sy'n gyfleus iddynt.

Manylion am yr Unigolyn

Manylion am yr Unigolyn ar gyfer rôl y Swyddog Llywyddu
Meini prawfRhinweddau (Hanfodol / Dymunol)
Gwybodaeth Hanfodol: Gwybodaeth ymarferol am y broses etholiadol

Sgiliau a galluoedd

Hanfodol:
  • Profiad o weithio mewn Gorsaf Bleidleisio ar o leiaf 2 achlysur arall.
  • Gallu gweithio’n annibynnol dan bwysau.

Dymunol: Profiad blaenorol o oruchwylio neu fel rheolwr atebol.

Arall

Hanfodol:

  • Gallu aros yn wleidyddol niwtral
  • Prydlondeb
  • Cwbl lythrennog a rhifog

Dymunol: Diplomyddiaeth a doethineb wrth weithio gydag aelodau’r cyhoedd.

Sut i wneud cais

Gallwch ymgeisio ar-lein – nid ydym yn derbyn CV. I gwblhau’r ffurflen ar-lein byddwch angen cyfeiriad e-bost dilys.

Gwneud cais ar-lein i weithio yn yr Etholiadau