Band eiddo treth y cyngor
Fe newidir y dreth cyngor yn ddyddiol. Fe bennir y swm a dalwch chi drwy fandio eich eiddo ac ym mha ardal y mae.
Dod o hyd i fand a thâl am eiddo yn Sir Ddinbych
Bandiau Eiddo
Bydd band eiddo’n seiliedig ar beth fyddai ei werth ar Ebrill 1, 2003. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n (gwefan allanol) gyfrifol am fandio pob cartref yng Nghymru.
Gwahanol fandiau prisio
Band prisio | Gwerth yr eiddo (ar 1 Ebrill 2003) |
A |
Hyd at £44,000 |
B |
£44,001 i £65,000 |
C |
£65,001 i £91,000 |
D |
£91,001 i £123,000 |
E |
£123,001 i £162,000 |
F |
£162.001 i £223,000 |
G |
£223,001 i £324,000 |
H |
£324,001 i £424,000 |
I |
Dros £424,001 |
Apeliadau yn erbyn Bandio
Y Swyddog Prisiadau sy’n delio ag apeliadau. Os ydych chi’n credu bod prisiad eich eiddo yn anghywir dylech gydymffurfio â’r broses apelio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ymweld â wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol).
Mae ychydig o resymau pam all eich band newid. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Ar ôl dymchwel
- Addasu tai i fflatiau
- Newidiadau ffisegol yn yr ardal leol sy’n effeithio ar y pris
Rhaid parhau i dalu treth y cyngor wrth i unrhyw apêl gael ei wneud a'i ystyried.
Sgwrsio gydag ymgynghorydd
Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.