Problemau talu treth y cyngor

Gwybodaeth am broblemau'n talu'r dreth gyngor.

Anhawster gwneud trafodyn

Cysylltwch â ni os ydych chi’n cael problemau gydag unrhyw ddull talu. 

Anhawster gyda swm sy’n ddyledus

Rhowch wybod i ni bob amser gan ei bod yn bosib y gallem eich helpu. Ond, mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n bosib osgoi camau gorfodi bob tro. 

Beth fydd yn digwydd os na fydda i’n talu neu’n talu’n hwyr?

Os na chaiff taliad ei dalu’n llawn erbyn y dyddiad dyledus, yna gellir rhoi nodyn atgoffa’n rhoi saith diwrnod i’r rhandaliad gael ei ddiweddaru.

Os byddwch yn methu efo’ch taliadau am yr eildro, gellir rhoi nodyn atgoffa arall. Ond, ni ellir rhoi dim mwy na dau nodyn atgoffa am un cyfnod bilio.

Os byddwch yn methu â diweddaru’ch taliadau ar ôl nodyn atgoffa cyntaf neu ail nodyn, fe anfonir nodyn atgoffa terfynol, yn hawlio’r swm sydd ar ôl am y flwyddyn ariannol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellid sefydlu trefniant arbennig drwy ddebyd uniongyrchol yn y cam yma ond byddai camau adferiad yn parhau o’r hysbysiad terfynol os caiff hwn ei ganslo. Mewn rhai achosion gellir rhoi hysbysiad terfynol heb nodyn atgoffa, e.e. pan na fydd balans wedi ei glirio ar gyfrif sydd wedi cau.

Os na thelir yr hysbysiad terfynol (neu os na fydd trefniant arbennig wedi ei sefydlu ac os na fyddid wedi glynu ato), yna gellir rhoi gwŷs llys i gael gorchymyn dyled. Mae yna dâl o £70 am roi’r wŷs a byddai hynny’n cael ei ychwanegu at y balans sydd heb ei dalu. Mewn rhai achosion, gellir sefydlu trefniant, atal cyflog neu atal buddiannau yn y cam yma ond byddai’n rhaid iddo gynnwys costau’r wŷs.

Cytundeb Tâl – Incwm a Gwariant

Gellir gwneud cytundeb tâl yn dibynnu ar eich incwm a’ch gwariant. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, dim ond wedi i wŷs llys gael ei gyhoeddi am ddiffyg taliad y byddem yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm a'ch gwariant.

Os y sefydlir trefniant talu, sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn gwneud yr holl daliadau ar amser gan y gallai methu gwneud hynny arwain at drosglwyddo’r balans i asiantwyr gorfodi ar gyfer ei gasglu.

Rhowch fanylion eich incwm a'ch gwariant

Atafaelu Enillion

Os rhoddir Gorchymyn Atebolrwydd i ni yn eich erbyn am beidio â thalu Treth y Cyngor, efallai y byddwn yn ysgrifennu at eich cyflogwr, gan roi cyfarwyddyd iddynt wneud didyniadau yn uniongyrchol o’ch cyflog. Byddwn bob amser yn ysgrifennu atoch gyda chopi o'r Gorchymyn felly byddwch bob amser yn cael hysbysiad bod hyn yn mynd i ddigwydd.

Mae hon yn ddogfen gyfreithiol y mae’n rhaid i'ch cyflogwr wneud didyniadau yn unol â hi, gall methu â gwneud hynny arwain at ddirwy i’r cyflogwr. Gall cyflogwyr ddidynnu costau gweinyddol o £1 bob tro y gwneir didyniad.

Cysylltwch â ni ar unwaith os ydych chi neu eich gweithiwr yn newid swyddi

Cliciwch ar y tab enillion isod i gael manylion am ba didyniadau y mae'n rhaid eu gwneud o’r cyfanswm tâl net;

Enillion dyddiol
Didyniadau yn seiliedig ar enillion dyddiol
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £16 0
Dros £16 ond nid dros £28 3%
Dros £28 ond nid dros £38 5%
Dros £38 ond nid dros £47 7%
Over £47 ond nid dros £74 12%
Dros £74 ond nid dros £102 17%
Dros £102 17% o’r £102 cyntaf a 50%
o’r swm sy'n weddill
Didyniadau yn seiliedig ar enillion wythnosol
Didyniadau
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £105 0
Dros £105 ond nid dros £190 3%
Dros £190 ond nid dros £260 5%
Dros £260 ond nid dros £320 7%
Dros £320 ond nid dros £505 12%
Dros £505 ond nid dros £715 17%
Dros £715 17% o'r £715 cyntaf a 50% o'r
swm sy'n weddill
Didyniadau yn seiliedig ar enillion misol
Didyniadau
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £430 0
Dros £430 ond nid dros £780 3%
Dros £780 ond nid dros £1,050 5%
Dros £1,050 ond nid dros £1,280 7%
Dros £1,280 ond nid dros £2,010 12%
Dros £2,010 ond nid dros £2,860 17%
Dros £2,860 17% o'r £2,860 cyntaf a 50% o'r
swm sy'n weddill

Mae rhagor o wybodaeth yn y canllaw gorchmynion atafaelu i gyflogwyr
(gwefan allanol)

Asiantau Gorfodi

Gall asiantau gorfodi gael cyfarwyddyd i gasglu treth y cyngor sy'n ddyledus ar ôl i orchymyn atebolrwydd gael ei gyhoeddi. Darganfod mwy am Asiantau Gorfodi.

Sut allaf i apelio penderfyniad a wnaethpwyd gan yr adran dreth gyngor?

Os byddwch yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr adran dreth gyngor, dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol) a fydd yn gallu darparu cyngor cyffredinol.

Cofiwch y dylid talu’r dreth gyngor tra bydd apêl yn gyfredol.

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.