Treth y Cyngor: Rhowch wybod i ni os bydd yna newid
Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar Dreth y Cyngor cyn gynted â phosibl fel y gallwn sicrhau bod biliau'n cael eu hanfon at y bobl gywir a bod aelwydydd yn cael y gostyngiadau cywir.
Prynu neu werthu eiddo
Os ydych chi wedi prynu neu werthu eiddo, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion, anfon bil cywir atoch, cymhwyso unrhyw ostyngiadau, neu gau eich cyfrif.
Pryd i roi gwybod i ni am werthu eiddo
Nid ydym yn gwneud newidiadau i'n cofnodion perchnogaeth nes bod y broses werthu wedi'i chwblhau. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl ar ôl i'r broses gwerthu gael ei chwblhau er mwyn newid cofnodion treth y cyngor.
Sut i roi gwybod i ni am werthu eiddo
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein 'rhowch wybod i ni am newid cyfeiriad' os ydych chi wedi prynu eiddo newydd neu wedi gwerthu'ch hen eiddo.
Rhoi gwybod i ni am newid cyfeiriad
Newid tenantiaeth
Os ydych chi'n denant sy'n symud i mewn neu allan o eiddo rhent, neu'n landlord â’i denantiaid yn newid, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion, anfon biliau cywir, neu gau cyfrifon.
Pryd i roi gwybod i ni am newid tenantiaeth
Gallwch roi gwybod i ni am newid tenantiaeth hyd at wythnos cyn i denantiaeth ddod i ben yn swyddogol.
Sut i roi gwybod i ni am newid tenantiaeth
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am newidiadau i eiddo rhent neu gytundeb tenantiaeth.
Rhowch wybod i ni am newid tenantiaeth
Preswylwyr sy'n cael Budd-daliadau Tai neu fudd-dal Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Os ydych chi'n derbyn Budd-daliadau Tai neu gymorth dan Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, gallwch roi gwybod i ni am newid i'ch cartref, incwm, cynilion, rhent neu newid cyfeiriad trwy'r ffurflen ar-lein ganlynol:
Rhowch wybod i ni am newid a allai effeithio ar eich hawl
Pan fydd rhywun yn marw
Rydyn ni’n deall fod hwn yn amser anodd ac ni fyddwn yn disgwyl cael ein diweddaru’n syth. Fodd bynnag, gorau po gyntaf y cawn wybod er mwyn i ni allu cymhwyso eithriad neu wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Pwy all ddweud wrthym am newid?
Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â newid gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod disgowntiau ac eithriadau yn cael eu dyfarnu'n gywir. Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan asiantau tai a chyfreithwyr.
Gostyngiadau ac eithriadau
Mae gostyngiadau ac eithriadau Treth y Cyngor ar gael ar gyfer gwahanol amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys cartrefi lle mae myfyrwyr llawn amser yn unig yn byw, neu eiddo sydd wedi'u gadael yn wag ac heb ddodrefn.
Os bydd rhywun yn symud allan o eiddo cyn iddo gael ei werthu neu cyn i denantiaeth ddod i ben yn swyddogol, efallai y bydd eithriad ar gael nes bod y cyfrifoldeb cyfreithiol yn newid i'r perchennog neu'r tenant newydd.
Dysgwch fwy am ostyngiadau ac eithriadau Treth y Cyngor
Newidiadau eraill
Ar gyfer unrhyw newidiadau eraill, gan gynnwys newidiadau i ostyngiadau, gallwch gysylltu â ni.
Dylech gynnwys y cyfeiriadau llawn a’r union ddyddiadau fel y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol. Mewn rhai achosion efallai y byddwn angen gwybodaeth ychwanegol.
Sgwrsio gydag ymgynghorydd
Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.
Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur
Gallwch gofrestru ar gyfer biliau di-bapur gan olygu y bydd eich biliau Treth y Cyngor yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn hytrach na thrwy’r post.
Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur