Treth y Cyngor: rhyddhad o dalu’r premiwm am dri mis ar gyfer eiddo gwag hirdymor sy’n cael ei adnewyddu’n sylweddol
Os ydych chi wedi dod yn berchen ar eiddo a fu’n wag am o leiaf pum mlynedd, efallai y gallwn gynnig rhyddhad o dalu premiwm Treth y Cyngor am dri mis os ydych chi’n gwneud gwaith adnewyddu cyffredinol yno.
Y bwriad yw helpu perchnogion newydd cartrefi a fu’n wag ers tro i’w rhoi at ddefnydd o’r newydd fel prif breswylfeydd parhaol.
Beth sydd ar gael?
Os cymeradwyir eich cais, diddymir premiwm Treth y Cyngor am dri mis. Mae hynny’n golygu y byddwch yn talu swm safonol Treth y Cyngor am y cyfnod, yn hytrach na’r gyfradd premiwm.
Pwy sy’n gymwys?
Gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad o dalu’r premiwm am dri mis ar gyfer eiddo gwag hirdymor:
- os daethoch yn berchennog newydd yr eiddo yn y chwe mis diwethaf
- os bu’r eiddo’n wag heb fawr ddim dodrefn ynddo am o leiaf pum mlynedd cyn ichi ddod yn berchennog - cysylltwch â ni os hoffech gael gwybod hyn
- os ydych yn gwneud gwaith adnewyddu sylweddol i wneud yr eiddo’n addas i fyw ynddo
- os bwriedir defnyddio’r eiddo’n brif breswylfa ar ôl gorffen y gwaith.
Mae adnewyddu cyffredinol yn cynnwys, er enghraifft:
- peintio ac addurno
- gosod lloriau, carpedi, ffenestri neu ddrysau newydd
- gosod cegin neu ystafell ymolchi (heb unrhyw waith strwythurol o bwys)
- ailosod gwifrau trydanol neu osod system gwres canolog newydd
- mân waith trwsio ar do
- trwsio offer plymio
- trin lleithder
- mân waith plastro neu drwsio nenfwd.
Ni chaniateir rhyddhad ar gyfer:
- ail gartrefi
- llety gwyliau
- eiddo na fwriedir byw ynddo fel prif breswylfa
- eiddo lle nad oes unrhyw waith adnewyddu’n digwydd
Sut i wneud cais
Mae’n rhaid ichi lenwi’r ffurflen gais ar-lein.
Wrth ymgeisio, efallai y bydd gofyn ichi ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau ategol ynghylch:
- yr eiddo
- pa bryd y bu’n wag
- y gwaith adnewyddu sy’n digwydd.
Asesir pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.
Gwnewch gais ar-lein am ryddhad o dalu premiwm Treth y Cyngor am dri mis ar gyfer eiddo gwag hirdymor
Newid yn eich amgylchiadau
Mae’n rhaid ichi roi gwybod inni am unrhyw newidiadau a fedrai effeithio ar eich cais.
Os na wnewch chi hynny, gallwn dynnu’r gostyngiad yn ôl a gofyn am ad-daliad o’r swm y rhoddwyd rhyddhad o’i dalu eisoes.
Cysylltwch â ni i roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.