Premiwm treth y cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu deddfwriaeth sy’n rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi premiwm treth y gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Yn 2017, penderfynodd Sir Ddinbych yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn y byddai premiwm treth y cyngor o 50% yn cael ei godi ar:

  • Eiddo Gwag Hirdymor o fis Ebrill 2018
  • Ail Gartrefi o fis Ebrill 2019

Eiddo Gwag Hirdymor

Mae eiddo gwag hirdymor yn eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo (hunangynhwysol) sy’n parhau’n wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth am gyfnod parhaus o 12 mis neu fwy.

Ail Gartrefi

Ail Gartref yw eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo (hunangynhwysol), wedi’i ddodrefnu i raddau helaeth ac nad yw’n unig neu brif breswylfa unigolyn.

Pam mae premiwm?

Diben premiwm treth y cyngor yw:

  • annog perchnogion tai i beidio â gadael eu heiddo yn wag
  • cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy
  • bod o fudd i’r gymuned a’r economi leol

Eithriadau

Ni fyddai premiwm treth y cyngor yn cael ei godi o dan yr eithriadau canlynol:

  • Dosbarth 1: eiddo sy’n cael ei farchnata i’w werthu - mae cyfyngiad amser o 12 mis ar yr eithriad hwn.
  • Dosbarth 2: eiddo sy’n cael ei farchnata i’w osod - mae cyfyngiad amser o 12 mis ar yr eithriad hwn.
  • Dosbarth 3: anecs sy'n rhan o, neu sy’n cael ei drin fel rhan o’r prif eiddo
  • Dosbarth 4: eiddo a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref i rywun pe na baent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog
  • Dosbarth 5 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiannir
  • Dosbarth 6 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): eiddo ble mae amod cynllunio naill ai:
    • yn cyfyngu’r annedd rhag cael ei ddefnyddio am gyfnod parhaus o hyd at o leiaf 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
    • yn nodi y gellir defnyddio’r annedd fel llety gwyliau yn unig
    • yn atal ei ddefnyddio’n brif neu unig breswylfa unigolyn
  • Dosbarth 7 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): anheddau sy’n gysylltiedig â swyddi

Ymgeisio am eithriad

Os ydych yn meddwl bod eich eiddo yn disgyn o dan unrhyw un o’r dosbarthiadau eithriadau, cysylltwch â ni. Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth, megis un o’r canlynol

  • cytundeb neu gontract gwerthwr tai a’r ddolen uniongyrchol i wefan yr asiant yn dangos bod eich eiddo yn cael ei hysbysebu i’w werthu neu ei osod
  • slip cyflog yn dangos Cyfraniad yn Lle Treth y Cyngor ar gyfer personél y Lluoedd Arfog
  • cyfeirnod cynllunio ar gyfer anecsau neu eiddo gyda chyfyngiadau cynllunio
  • contract cyflogaeth ar gyfer anheddau cysylltiedig â swydd

Eithriad Dosbarth C

Mae eithriad Dosbarth C treth y cyngor ar gael am 6 mis ar eiddo sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol ac sy’n wag . 

Gweler gwybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau.

Mwy o wybodaeth

Os hoffech ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd llawn amser, efallai y bydd gennych hawl i gael help gan y canlynol: