Gwerthiannau carreg y drws

Os byddwch chi, fel masnachwr, yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i ddefnyddwyr yn eu cartref neu ar hap, yn eu gweithle, mae’n rhaid i chi roi gwybodaeth benodedig i’r defnyddiwr sydd wedi ei mynegi yn y Rheoliadau Canslad Contractau a Wnaethpwyd yng Nghartref Defnyddiwr neu eu Gweithle etc. 2008. 

Mae’n rhaid i chi ddarparu’r defnyddiwr ag hysbysiad ysgrifenedig o’u hawl i gyfnod o 14 diwrnod i ailfeddwl, ynghyd â’ch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt. 

Mae peidio â chydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth yma’n drosedd ac mae methu a darparu’r Hysbysiad o Ganslo’n golygu na ellir gorfodi’r contract. Hynny yw, gall y defnyddiwr wrthod talu am y gwaith a wneir ac ni allwch fynd ar eu hôl i adfer unrhyw arian. 

Mwy gwybodaeth i 

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ar sut i gydymffurfio, ewch i’n tudalennau ar gyngor masnachol a throslwythwch becyn gwybodaeth .

Trosedd carreg y drws a masnachwyr twyllodrus

Gall masnachwyr twyllodrus effeithio ar unrhyw un, ond yn aml bydd yr henoed a’r bobl sy’n agored i niwed yn cael eu targedu gan fasnachwyr twyllodrus sy’n cynnig gwasanaethau gwella’r cartref. 

Gall galwyr gynnig gwasanaethau fel glanhau ffenestri/cwterydd, atgyweiriadau i lwybrau a dreif, toi a gwaith adeiladu, garddio a chynnal coed. Fe fyddan nhw’n ymddangos yn unigolion hoffus a dymunol ond unwaith y byddan nhw’n dechrau ar y gwerthu caled fe fyddan nhw’n sydyn iawn yn troi’n benderfynol ac yn llawn perswâd. Fe fyddan nhw’n aml yn defnyddio dulliau dychryn am gwterydd sy’n gollwng ac yn achosi tamprwydd a gwreiddiau coed yn difrodi sylfeini ac mae’n hawdd iawn cael ei darbwyllo gan bobl felly. 

Mae’n rhaid i fasnachwyr eich darparu â gwybodaeth benodol am eich hawliau pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn eich cartref eich hun. Gall hwn fod yn rhan o ddyfynbris neu anfoneb, ond mae’n rhaid ei roi i chi cyn dechrau ar y gwaith.

  • Mae’n rhaid iddyn nhw roi hysbysiad ysgrifenedig i chi’n esbonio fod gennych yr hawl i gyfnod o 14 diwrnod i newid eich meddwl, mae’n rhaid bod yna ddyddiad ar yr hysbysiad, mae’n rhaid iddo gynnwys enw a chyfeiriad y masnachwr ac mae’n rhaid iddo fod yn hawdd ei ddarllen.
  • Mae’n rhaid i’r ddogfen hefyd gynnwys slip datgysylltiol sef eich ffurflen ganslo. Gallwch lenwi hon a’i hanfon at y masnachwr i weithredu’r canslad.

Mae methu â darparu’r wybodaeth yma’n drosedd a gall olygu na ellid gorfodi’r contract yn eich erbyn chi.

Sut allaf i adrodd masnachwr twyllodrus?

Gallwch adrodd masnachwr twyllodrus neu un y tybiwch iddo fod yn dwyllodrus drwy ffonio’r heddlu ar 101 neu os bydd masnachwr twyllodrus wedi cymryd arian gennych chi, mae yn eich cartref neu’n dal yn yr ardal leol, dylech ffonio 999. Hyd yn oed os bydd galwr diwahoddiad yn gadael carreg eich drws, nid yw hynny’n golygu na fydd yn targedu eraill felly peidiwch â bod ofn adrodd unrhyw un sy’n amheus yn eich tyb chi, i’r heddlu.

Os gwelwch chi fasnachwyr y credwch eu bod yn masnachu’n amhriodol, neu os cewch eich galw i gartref defnyddiwr a’ch bod yn credu eu bod masnachwyr twyllodrus wedi gwerthu iddyn nhw, cysylltwch â ni ac adroddwch y mater. Fe rown ni gyngor a chymryd camau, os bydd hynny’n bosib, yn erbyn y masnachwr.

Ein cyngor i drigolion

Os oes amheuaeth, cadwch nhw allan a chofiwch na fydd galwyr dilys yn meindio aros tra byddwch chi’n gwirio eu gwybodaeth. 
Gallwch gael gwybodaeth bellach drwy gysylltu ag aelod o’ch Tîm Plismona yn y Gymdogaeth (gwefan allanol) neu drwy ymweld â gwefan Penaethiaid Safonau Masnach Cymru (gwefan allanol)